MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun:
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £30,908.00 - £34,832.00
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith - Peirianneg Fecanyddol

Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith - Peirianneg Fecanyddol

Coleg Cambria
Teitl y Swydd:  Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith - Peirianneg Fecanyddol

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser

Cyflog: £30,908 - £34,832

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer ymarferydd yn y gwaith gyda’n hadran Beirianneg. Bydd yr ymarferydd yn asesu’r ystod lawn o gymwysterau yn y maes pwnc perthnasol yn unol â gofynion y sefydliad Dyfarnu sy’n gysylltiedig â sgiliau a chymhwysedd galwedigaethol. Byddant yn gweithio gyda grŵp o ddysgwyr sydd wedi’i bennu gan fformiwla berthnasol y coleg. Bydd yr Ymarferydd yn cynnal Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi ar gyfer dysgwyr, yn eu cofrestru ar gyrsiau addas ac yn darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â chyflwyno sesiynau gwybodaeth greiddiol i ddysgwyr naill ai mewn sesiwn un i un neu weithdy (rydym yn argymell uchafswm o 8 mewn grŵp). Hefyd byddant yn cynnal asesiadau cychwynnol yn defnyddio WEST fel rhan o’r broses ymsefydlu.

Gofynion Hanfodol

●      Cymhwyster proffesiynol Lefel 3 mewn pwnc perthnasol neu gymhwyster cyfwerth

●      Cymhwyster asesydd neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny (TAQA)

●      Cymhwyster Sicrhau Ansawdd neu yn fodlon gweithio tuag at hynny (Uned 401 TAQA ar hyn o bryd).

●  Mae profiad yn y Diwydiant Peirianneg Fecanyddol yn hanfodol / profiad o beiriannu â llaw a pheiriannu CNC yn hanfodo    

●      Cymwys mewn amrywiaeth o offer a rhaglenni technolegau digidol, gan gynnwys cynnyrch Google a Microsoft. Rhagweithiol gyda thechnolegau a datblygiadau newydd.