MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Testun:
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro Dros Dro (Anhwylder y Sbectrwm Awtistig)

Athro Dros Dro (Anhwylder y Sbectrwm Awtistig)

Rhondda Cynon Taf
Athro Dros Dro (Anhwylder y Sbectrwm Awtistig)

Disgrifiad Swydd
Athro Dosbarth Cynnal Dysgu (Anhwylder y Sbectrwm Awtistig) – Cyfnod Sylfaen

yn Ysgol Gymuned Perthcelyn

6.5 awr yr wythnos, dros dro

Cyfloh Athrawon ynghyd â Lwfans AAA (pro rata)

Dyddiad dechrau: 1 Medi 2024

Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf eisiau penodi athro dosbarth rhagorol a llawn cymhelliant i weithio yn y Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Gymuned Perthcelyn gan ddatblygu darpariaeth ar gyfer y disgyblion hynny.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd profiadol ac egnïol sy'n meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth o ystod o strategaethau addysgu, dysgu, asesu a rheoli ymddygiad a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion ag awtistiaeth.

Ydych chi'n berson arloesol, brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ymrwymiad? Oes gyda chi dystiolaeth gadarn o'r gallu i weithio ar y cyd yn rhan o garfan? Pe gallech chi wneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad ein disgyblion, hoffen ni glywed gennych chi.

Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion gan ddefnyddio’r ddolen: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Williams, y Gwasanaeth Cynnal Dysgu, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ, neu anfon e-bost: Rachel.williams3@rctcbc.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar 3 Mai 2024.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.