MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Tiwtor Materion Cyflogadwyedd – swydd wedi'i hariannu'n allanol

Tiwtor Materion Cyflogadwyedd – swydd wedi'i hariannu'n allanol

Rhondda Cynon Taf
Tiwtor Materion Cyflogadwyedd - swydd wedi'i hariannu'n allanol

Disgrifiad Swydd
Tiwtor Materion Cyflogadwyedd – swydd wedi'i hariannu'n allanol

Dyma gyfle cyffrous i weithio yn rhan o Garfan Gwaith a Sgiliau Rhondda Cynon Taf yn Diwtor i Oedolion.

Dyma swydd llawn amser, 37 awr yr wythnos dros dro am gyfnod penodol ar hyn o bryd tan 31/03/2025.

Rydyn ni am benodi unigolyn brwdfrydig sydd â'r gallu i ddatblygu a darparu cyrsiau newydd cyffrous yn y gymuned law yn llaw â'n carfan gyfeillgar.

I gefnogi cyflwyno ein rhaglen Llwybrau at Gyflogaeth sydd eisoes yn llwyddiannus, rydyn ni'n chwilio am diwtor profiadol a fydd yn gallu datblygu a chyflwyno cyrsiau hyfforddi sy'n gysylltiedig â gofynion Cyflogwyr enwebedig, er mwyn llywio sgiliau dysgwyr i fodloni disgwyliadau'r cyflogwr.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar, neu'n gweithio tuag at, gymhwyster dysgu neu hyfforddi lefel 3 a bydd ganddo brofiad o ddarparu cyrsiau wedi'u hachredu a heb eu hachredu o safon uchel i bobl ifainc ac/neu oedolion.

Mae sgiliau Cymraeg Lefel 3 hefyd yn ddymunol.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth, e-bostiwch Ceri-Ann.sheen@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 07825 675779.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn gwireddu addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.