MANYLION
  • Lleoliad: Various locations in the Borough,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Geithiwr Datgysylltiedig ac Allgymorth wedi'i Dargedu

Geithiwr Datgysylltiedig ac Allgymorth wedi'i Dargedu

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Geithiwr Datgysylltiedig ac Allgymorth wedi'i Dargedu
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n recriwtio Geithiwr Datgysylltiedig ac Allgymorth wedi'i Dargedu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 33 Oriau
Math o gontract: Rhan Amswer/Cyfnod Penodol Tan 31/03/2025
Lleoliad: Ty Penallta- Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm y Gwasanaeth Ieuenctid.

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £23,564 - £25,659 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfle ar gyfer Gweithiwr Datgysylltiedig ac Allgymorth wedi'i Dargedu fel rhan o'n Prosiect Ieuenctid.

Yma, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda phobl ifanc sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, gan gynorthwyo eu datblygiad cymdeithasol ac addysgol a'u cyfranogiad mewn gweithgareddau cymunedol.

Mae'r prosiect yn ymyriad hirsefydlog, sy'n canolbwyntio ar atal a lleihau. Mae'n ymgysylltu â phobl ifanc rhwng 8 a 25 oed, sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu gymryd risgiau.

Gan ganolbwyntio ar feysydd, unigolion a grwpiau problemus, mae Gweithwyr Ieuenctid yn darparu gwaith allgymorth datgysylltiedig, oddi ar y safle, a gwaith mewn canolfannau er mwyn cynnwys unigolion sydd wedi'u nodi drwy grwpiau lleihau troseddau aml-asiantaeth neu bartneriaid megis Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerffili Saffach, yr Heddlu ac ati.

Mae sesiynau wedi'u teilwra i anghenion yr unigolion gyda'r nod o'u dargyfeirio nhw o ymddygiad sy'n debygol o'u harwain nhw i droseddu neu aildroseddu.

Trwy ddarparu gweithgareddau amgen, gall y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect gymryd rhan mewn cyfleoedd sy’n caniatáu iddyn nhw ennill achrediad, gwella eu deilliannau addysgol, cynyddu eu siawns o gyrraedd eu llawn botensial a gwella eu lles. Gallan nhw hefyd gael mynediad at gymorth i'w galluogi nhw i fynd i'r afael â phroblemau a materion sy'n effeithio ar y ffordd y maen nhw'n ymgysylltu â'r gymdeithas.

Mae'r sesiynau sy'n cael eu darparu i bobl ifanc yn amrywiol ac wedi'u datblygu'n unol â'r angen; mae hyn yn cynnwys gweithio mewn grwpiau ac ar sail un i un. Er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith, bydd y Gweithiwr Datgysylltiedig ac Allgymorth wedi'i Dargedu yn rhoi cymorth i’r Uwch Weithiwr Datgysylltiedig ac Allgymorth wedi'i Dargedu, gyda darpariaeth wyneb yn wyneb ac ymweliadau â chartrefi, cludo pobl ifanc, cofnodi gwybodaeth er mwyn llywio adroddiadau i Lywodraeth Cymru, a datblygu gweithgareddau i'r bobl ifanc gymryd rhan ynddyn nhw.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
  • Cymhwyster Lefel 3 perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Er enghraifft Gwaith Ieuenctid.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r fenter hyrwyddo ymgysylltu cadarnhaol.
  • Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) i yrru cerbyd y Cyngor i gludo plant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr yn rheolaidd yn ystod yr wythnos.

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Michelle Harris ar 01443 864266 neu ebost: Harrim5@caerfilli.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk

am ragor o wybodaeth

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 a Rheoliadau Cyngor Gweithlu Addysg, (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 fel y’u diwygiwyd yn nodi'r gofyniad i weithwyr ieuenctid cymwys a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwys gael eu cofrestru yn y categori neu'r categorïau cofrestru ar gyfer y gwaith y maent yn ei wneud.

Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o’ch cofrestriad a’ch cofrestriad parhaol, fel Gweithiwr Ieuenctid Cymwys neu Gynorthwyydd Gweithiwr Ieuenctid cymwys.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ neu drwy ffonio 02920 460099. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.