MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Uwch-weithiwr Gofal Plant - Dechrau'n Deg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Uwch-weithiwr Gofal Plant - Dechrau'n Deg
Disgrifiad swydd
Hyd at fis Mawrth 2025

Yn ystod tymor yr ysgol yn unig

37 awr yr wythnos

A ydych yn weithiwr proffesiynol profiadol y Blynyddoedd Cynnar sy'n angerddol am sicrhau'r deilliannau gorau posibl i blant ifanc?

Efallai mai hon yw'r rôl i chi!

Rydym yn dymuno recriwtio gweithiwr proffesiynol profiadol, gwybodus a rhagweithiol, sydd â phrofiad llwyddiannus o sicrhau deilliannau rhagorol i blant yn eu blynyddoedd cynnar, i ymuno â'n tîm amrywiol a chyfeillgar ac i arwain un o'n lleoliadau Dechrau'n Deg newydd.

A chithau'n uwch-weithiwr gofal plant yn ein teulu Dechrau'n Deg, byddwch yn arwain tîm bach o staff i gyflawni darpariaeth, ymarfer a gofal o'r ansawdd uchaf. Byddwch yn cael eich cefnogi yn eich rôl gan un o'n Cydlynwyr Gofal Plant Dechrau'n Deg a'n tîm cynghori'r Blynyddoedd Cynnar. A chithau'n ymarferydd rhagorol yn y blynyddoedd cynnar, byddwch yn cynnig arweinyddiaeth gref sy'n ysbrydoli'r gorau mewn eraill, bob dydd.

Bydd y lleoliad yn gweithredu fel cyfrwng Saesneg yn y bore ac yn gweithio tuag at gyflwyno sesiynau'r prynhawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, rhaid i ymgeiswyr eisoes fod yn siaradwyr Cymraeg neu'n barod i gymryd rhan mewn rhaglen ddwys o ddysgu, wedi eu cynorthwyo gan ein partneriaid ym Mudiad Meithrin.

Os ydych yn credu mor gryf â ni ym mhwysigrwydd y Blynyddoedd Cynnar ac mae'r her hon yn gyffrous i chi, rydym am glywed gennych. Mae croeso cynnes i chi gael trafodaeth gyda'n Harweinydd Tîm Gofal Plant Dechrau'r Deg, Lucy Davies, ac mae'n hawdd trefnu hyn. Cysylltwch â lucy.davies@bridgend.gov.uk i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych neu i drefnu apwyntiad ar gyfer sgwrs anffurfiol.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 08 Mai 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person