MANYLION
  • Lleoliad: Usk, Monmouthshire, NP15 1XJ
  • Testun: Dirprwy Bennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £95,000 - £95,000
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 07 Mai, 2024 11:59 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweinyddwr Ysgol – Astudiaethau Creadigol a Thechnegol

Gweinyddwr Ysgol – Astudiaethau Creadigol a Thechnegol

Coleg Gwent
Mae Coleg Gwent yn gyffrous i gyhoeddi agoriad ar gyfer Is-bennaeth newydd. Bydd y rôl hon yn arwain ac yn cyfarwyddo’r Is-adran Cwricwlwm ac Ansawdd gan ddarparu’r arweinyddiaeth angenrheidiol er mwyn cyflawni amcanion strategol Coleg Gwent. Rôl yr Is-bennaeth fydd cynnal gweledigaeth y coleg trwy ddatblygu a sefydlu ymddygiad, systemau a phrosesau sydd, yn y pendraw, yn gwella ansawdd pob agwedd ar brofiad y dysgwr a sicrhau canlyniadau neilltuol ar gyfer ein dysgwyr.
Gan ddarparu ystod eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol i 13,000 o bobl y flwyddyn yn ardal de-ddwyrain Cymru, mae Coleg Gwent yn gwasanaethu cymunedau a busnesau ym mwrdeistrefi sirol Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd ar draws pum campws unigryw.
Am bwy rydyn ni’n chwilio?
• Bydd gennych brofiad helaeth o arweinyddiaeth yn y sector AB, yn gallu darparu tystiolaeth o strategaethau effeithiol diweddar sy’n gwella canlyniadau dysgwyr a’r profiad dysgu.
• Byddwch yn arweinydd strategol creadigol ac ysbrydoledig gydag agwedd gadarnhaol a all ymgysylltu â staff a gweithio ar y cyd ar draws y rhanbarth.
• Byddwch yn dangos gallu i feithrin perthnasoedd cryf, i gydweithio ar draws yr holl staff yn y coleg a dylanwadu ar lefel uwch.
• Bydd gennych feddwl dadansoddol a chryfder allweddol wrth weithio gyda setiau data cymhleth, yn gallu dadansoddi, gwerthuso a syntheseiddio data i lywio trywydd ymholi a sicrhau gwelliant ansawdd ar draws pob maes darpariaeth.
• Bydd gennych feddylfryd gwelliant parhaus gyda phrofiad o gyflwyno strategaethau gwella arloesol wedi’u cydbwyso yn erbyn effeithlonrwydd sefydliadol.
• Byddwch yn drefnus gyda sgiliau cynllunio rhagorol ynghyd â’r gallu i roi sylw i fanylion a gweithio dan bwysau.
• Byddwch yn gyfathrebwr rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn gallu cyflwyno data a senarios cymhleth mewn ffordd sy’n ddealladwy i ystod eang o gynulleidfaoedd.
• Bydd gennych allu a phrofiad profedig o reoli newid aml-safle ar raddfa fawr mewn addysg.

https://www.coleggwent.ac.uk/cy/work-for-us