MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £60,000.00 - £65,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth Ysgol Rithwir i Blant sy'n Derbyn Gofal

Pennaeth Ysgol Rithwir i Blant sy'n Derbyn Gofal

Rhondda Cynon Taf
Pennaeth Ysgol Rithwir i Blant sy'n Derbyn Gofal

Disgrifiad Swydd
Pennaeth Ysgol Rithwir i Blant sy'n Derbyn Gofal

Telerau ac Amodau Athrawon

L10 - L16 (£59,990 - £69,598 y flwyddyn)

Dyddiad dechrau: 1 Medi 2024

Yn dilyn llwyddiant rhoi'r cynllun peilot dwy flynedd ar waith, mae Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi arweinydd addysgol sy'n meddu ar y cymwysterau a’r profiad priodol ac sydd â hanes o arfer arloesol i adeiladu ar gynllun peilot dwy flynedd llwyddiannus Model Ysgol Rithwir yr awdurdod lleol, i sefydlu Ysgol Rithwir barhaol ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal / sydd â phrofiad o dderbyn gofal. Mae hyn yn elfen allweddol o uchelgais y Cyngor i wella canlyniadau addysgol ei ddisgyblion sy'n derbyn gofal / sydd â phrofiad o dderbyn gofal. Byddai deiliad y swydd yn dechrau'r swydd erbyn 1 Medi 2024 neu cyn gynted â phosibl.

Dyma gyfle cyffrous i weithio ar y cyd ag adrannau Addysg a Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, ysgolion ledled yr awdurdod lleol, colegau addysg bellach lleol ac ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid allanol i ddatblygu dull integredig trawsnewidiol i gynnal lles Disgyblion sy'n Derbyn Gofal a gwella'u canlyniadau addysgol a chyfleoedd bywyd.

Yn ddelfrydol, bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus brofiad o weithio ar lefel strategol mewn ysgol a/neu awdurdod lleol a bydd ganddo/ganddi angerdd dros hyrwyddo cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad lefel uwch o gefnogi disgyblion agored i niwed mewn lleoliadau addysgol a bydd yn gallu dangos effaith ei arweinyddiaeth ar wella canlyniadau addysgol i blant.

Bydd gan ddeiliad y swydd lefel ragorol o ddealltwriaeth o ddeddfwriaeth addysgol sy'n berthnasol i blant sy'n derbyn gofal. Bydd yn mabwysiadu ymagwedd greadigol sy'n canolbwyntio ar ddileu rhwystrau i lwyddiant addysgol y garfan yma o ddisgyblion sy'n arbennig o agored i niwed.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar draws lleoliadau ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg a bydd ganddo rôl graidd i sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) briodol. Fel y cyfryw, bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar y gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r broses ymgeisio, ffoniwch Ceri Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cynhwysiant ar 01443 744004 neu ebostiwch Ceri.L.Jones@rctcbc.gov.uk

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl, oddi ar wefan Recriwtio'r Cyngor.

https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: Dydd Gwener 26 Ebrill 2024 am 12 Canol Dydd

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR.

YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.