MANYLION
  • Lleoliad: Swansea,
  • Testun:
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 03 Mehefin , 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe : Pastoral Assistant

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe : Pastoral Assistant

Cyngor Abertawe
Croesawn geisiadau gan unigolion â'r brwdfrydedd a'r angerdd i gyfrannu at wella profiadau disgyblion yn yr ysgol yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm addysgu Cymraeg yn Abertawe. Rydym yn benodol yn edrych am unigolion sydd â'r angerdd, y gallu neu'r profiad a'r natur i gefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i oresgyn unrhyw rhwystrau i'w dysgu.

Mae'r rolau newydd yma, sy'n gofyn am unigolion amyneddgar, didwyll ac adferol, yn allweddol i gefnogi ein disgyblion i fod y gorau allant fod ac i lwyddo drwy gyrraedd eu potensial. Mae'r angen am y gefnogaeth bwysig yma yn allweddol i lwyddiant ein disgyblion.

Sut i Ymgeisio:

Dyddiad Cau cyflwyno cais: Dydd Gwener 24ain o Fai 2024 12 y.p.
Cyflog: Graddfa Cyflog 5 Pro Rata £20943-£21655
Cytundeb: Parhaol, 37 awr yr wythnos, amser tymor yn unig
Dyddiad cau: Dydd Gwener 24ain o Fai 2024

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy'r Gymraeg yn allweddol ar gyfer y rôl hon.
Bydd y swydd yn amodol ar wiriad cymwysterau a dau eirda. Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.

Dylid danfon am ffurflen gais a gwybodaeth bellach at:
Mrs Eirian Leonard, Rheolwr Busnes Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, SA5 7BU.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais erbyn: 24ain o Fai 2024 12y.p.

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc) [134KB]

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe : Pastoral Assistant Job Description (PDF) [238KB]

Mae'r awdurdod yn unol â'r Polisi Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r Awdurdod yn disgwyl i bawb o'r staff ymgymered â hyfforddiant diogelu gorfodol ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf amdano.