MANYLION
- Lleoliad: Aberteifi, SA43 1AB
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £24,049 - £47,331 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £24,049 - £47,331 / blwyddyn
Darlithydd mewn Peirianneg FodurolApplication Deadline: 21 June 2024
Department: Motor Vehicle
Employment Type: Llawn Amser
Location: Campws Aberteifi
Compensation: £24,049 - £47,331 / blwyddyn
DescriptionMae'r Bwrdd Corfforaethol wedi ymrwymo i benodi staff a fydd yn dangos menter a brwdfrydedd, ac a fydd yn ychwanegu ymhellach at enw da'r Coleg trwy ymrwymiad i weithio fel aelod o dîm a chynhyrchu gwaith o ansawdd uchel. Mae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i berson rhagweithiol a dyfeisgar.
Lleolir y ddarpariaeth peirianneg fodurol ar gampws Aberteifi er efallai y bydd hi'n ofynnol i ddarlithwyr weithio mewn lleoliadau oddi ar y campws o bryd i'w gilydd, e.e. ysgolion partner, safleoedd masnachol a digwyddiadau.
Mae Coleg Ceredigion yn ymrwymedig i hyrwyddo cenhadaeth y coleg: Ysbrydoli Dysgwyr, Cyflawni Potensial, Ennill Rhagoriaethac mae'n gosod y dysgwr, ac addysgu a dysgu'n greiddiol i'w ethos. Mae'n gyfadran sydd yn croesawu technolegau newydd i gefnogi'r dysgu ac sy'n hyrwyddo prosesau olrhain a monitro cyson i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial. Mae dilyniant hefyd yn nodwedd amlwg gyda phob maes rhaglen yn cael ei annog i ddarparu llwybrau dilyniant clir o Lefel 1 drwodd i addysg uwch/prentisiaethau neu gyflogaeth.
Mae'r swydd hon yn darparu cyfle cyffrous i gyfrannu at waith y Maes Cwricwlwm ar ddatblygiadau'r dyfodol.
Cyfrifoldebau AllweddolBydd hi'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus:
- Gyfrannu at addysgu, asesu a chydlynu rhaglenni astudio'n arwain at Lefelau 1, 2 a 3 mewn Peirianneg Fodurol.
- Cyfrannu at addysgu a datblygu rhaglenni Rhan-amser a masnachol eraill, e.e. cyrsiau byr.
- Ymgymryd â chymhwyster Aseswr neu ddilysydd mewnol o fewn blwyddyn i gael eich penodi (os nad yw'r cymhwyster gennych eisoes).
- Ymgymryd â'ch rôl fel Tiwtor Cwrs.
- Ymgymryd â dyletswyddau asesu a dilysu.
- Cyfrannu at ddatblygu cyrsiau newydd a chreu diwylliant o arloesi a gweithgareddau masnachol.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Lefel 3 neu gyfwerth mewn Peirianneg Fodurol
- Cymhwyster Academaidd Uwch/ Galwedigaethol perthnasol mewn Peirianneg Fodurol
- Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
- Sector Peirianneg Cerbydau Modur
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Dawn greadigol a sgiliau ymarferol arloesol
- Sgiliau TGCh perthnasol
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Profiad addysgu perthnasol
- Dealltwriaeth o geir Hybrid a cheir Trydanol (gellir darparu hyfforddiant)
- Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein