MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Testun:
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £10,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Gweinyddol - Dechrau'n Deg

Cynorthwyydd Gweinyddol - Dechrau'n Deg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cynorthwyydd Gweinyddol - Dechrau'n Deg
Disgrifiad swydd
20 awr yr wythnos

 

Hyd at fis Mawrth 2025

 

Prif ddiben y swydd hon yw rhoi cymorth gweinyddol i aelodau amrywiol y tîm amlasiantaeth o fewn Dechrau'n Deg a'r gwasanaeth blynyddoedd cynnar ehangach gan gynnwys timau penodol fel y gwasanaeth Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu a thîm y Cyfnod Sylfaen nas cynhelir.

 

Gan weithio o dan oruchwyliaeth y Rheolwr Tîm Gweithredol Dechrau'n Deg, byddwch yn cynnal amrywiaeth o ddyletswyddau i ddarparu gwasanaethau clercol a gweinyddol i holl aelodau'r timau Dechrau'n Deg a blynyddoedd cynnar amlasiantaeth mewn sawl lleoliad ar draws y rhaglen blynyddoedd cynnar.

 

Mae'r swydd wedi'i lleoli yn y Ganolfan Integredig i Blant yng Nghorneli, Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

 

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

 

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

 

Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

 

Dyddiad Cau: 25 Ebrill 2024

Llunio'r rhestr fer: 26 Ebrill 2024

Dyddiad y Cyfweliad: 08 Mai 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person