MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Testun:
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Uwch Nyrs Feithrinfa CC/2574

Uwch Nyrs Feithrinfa CC/2574

Coleg Cambria
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth.

Teitl y Swydd : Uwch Nyrs Feithrinfa

Lleoliad : Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract : Llawn Amser, Cyfnod Pendol (Mehefin 2025)

Graddfa gyflog : £25,461 - £27,652

Trosolwg o'r Swydd

Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn chwilio am Uwch Nyrs y Feithrinfa i ymuno â'n tîm Meithrinfa Toy Box ar ein safle Glannau Dyfrdwy.

Meithrinfa Toybox yw ein meithrinfa ar y safle sy'n darparu lleoedd rhan amser a llawn amser ar gyfer plant staff a myfyrwyr y coleg yn ogystal ag aelodau'r gymuned. Rydym yn cynnig gofal plant o ansawdd da, gan sicrhau bod rhieni a phlant yn dod i amgylchedd croesawgar a chyfeillgar, gyda gofal ac addysg o'r safon uchaf.

Fel Uwch Nyrs y Feithrinfa, byddwch yn cynorthwyo gyda chynllunio a darpariaeth hir dymor datblygiad creadigol, cymdeithasol ac addysgol y plant, sy'n addas i'w hoedran a'u hanghenion. Byddwch yn gweithio fel Goruchwyliwr pan fo angen, byddwch yn cynorthwyo gyda'r trefnu o ddydd i ddydd, cynllunio a pharatoi prydau bwyd, gweithgareddau, amser ymlacio, glanhau a gwneud y golch wrth ddangos cwsmeriaid posib sy'n rhieni o amgylch y feithrinfa pan fo angen.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i hyrwyddo'r busnes i'r Coleg a'r gymuned. Byddant hefyd yn cynorthwyo gyda threfnu'r digwyddiadau hyrwyddo a chodi arian. Fel Uwch Nyrs y Feithrinfa byddwch yn datblygu a chynnal cyswllt cadarnhaol ac yn meithrin perthnasoedd o ymddiriedaeth gyda chwsmeriaid sy'n rhieni newydd a phresennol.

Rydym yn chwilio am unigolyn cyfeillgar, hyderus a gwydn a fydd yn gweithio'n effeithiol er mwyn bodloni gofynion lleoliad prysur.

Gofynion hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 neu gyfwerth
  • Lleiafswm o 3 blynedd o brofiad yn y maes gofal plant - gan gynnwys profiad gyda phlant oed sylfaen
  • Ymwybyddiaeth gyfredol o ddeddfwriaeth berthnasol a safonau ansawdd
  • Gallu dangos ymrwymiad ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Diogelu
  • Gallu rheoli amser - eich hun ac eraill

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai