MANYLION
  • Lleoliad: Nantgarw Campus,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth Gwasanaethau Lles a Diogelu

Coleg Y Cymoedd
Pennaeth Gwasanaethau Lles a Diogelu
Swydd ddisgrifiad
Am y rôl

 

Fel Pennaeth Lles a Diogelu, byddwch yn darparu arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol o gymorth lles a diogelu i ddysgwyr ar draws pob campws. Byddwch yn defnyddio'r ystod lawn o wasanaethau statudol, proffesiynol a gwirfoddol y tu allan i'r coleg, i gefnogi anghenion parhaus dysgwyr unigol, gan gysylltu â'r timau Cwricwlwm a Chymorth Dysgu Ychwanegol i sicrhau bod dull cydgysylltiedig yn cael ei fabwysiadu. Byddwch yn arwain ymagwedd y coleg at fod yn sefydliad sy’n gwybod am drawma ac yn cefnogi’r Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Profiad y Dysgwr i yrru cyflawniad Cynllun Strategol y Coleg

 

GwybodaethBellach:  

 

Maeangeni staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.  

 

Ymgymrydagunrhyw ddyletswyddaurhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.  

 

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.  

 

Canllawiau Cais:  

 

Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.  

 

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law  

 

Cyswllt:  

 

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â morgan.evans@cymoedd.ac.uk