MANYLION
  • Lleoliad: Crosskeys,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,374 - £49,933
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Tiwtor Cymraeg - Heddlu Gwent

Coleg Gwent

Cyflog: £25,374 - £49,933

Tiwtor Cymraeg - Heddlu Gwent
Swydd ddisgrifiad
37 awr yr wythnos

Tymor Penodol – 31/07/26

Dych chi’n diwtor Cymraeg i Oedolion profiadol? Mae Dysgu Cymraeg Gwent yn awyddus i benodi tiwtor sy â phrofiad dysgu helaeth ym maes Cymraeg i Oedolion a fydd yn cyflwyno Cymraeg i weithlu Heddlu Gwent.

Bydd deiliad y swydd yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o ymarferwyr tebyg yn gweithio dan arweiniad Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Dysgu Cymraeg Gwent. Bydd natur y gwaith yn amrywio yn ôl natur y galw a’r gofynion ar lefel leol, ac mae’n bosib felly y bydd angen gweithio’n rhagweithiol er mwyn cyflwyno ystod o gyrsiau amrywiol ar lefelau gwahanol er mwyn diwallu anghenion iaith y gweithlu.

Bydd gofyn darparu gwersi wyneb yn wyneb yn ogystal â chynnig profiadau dysgu ar-lein ar bob lefel. Disgwylir i chi ddarparu gwersi Cymraeg i Oedolion o ansawdd uchel. Bydd gofynion y swydd yn galw am gryn hyblygrwydd ar ran yr ymgeisydd llwyddiannus, oherwydd y disgwylir i chi weithio fel rhan o dîm Dysgu Cymraeg Gwent gyda’r hwyr ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd.

Mae Dysgu Cymraeg Gwent a leolir yng Ngholeg Gwent ar gampws Crosskeys yn gyfrifol am holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn ardal Gwent. Darperir dosbarthiadau wyneb yn wyneb ac ar blatfformau electronig fel Zoom a TEAMS i ddysgwyr o lefel Mynediad hyd at lefel Gloywi.

Mae hon yn swydd cyfnod penodedig hyd at 31 Gorffennaf 2026 (yn y lle cyntaf, ond gobeithir ymestyn y swydd wedyn).

Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd o’r gwaith yn bellach, mae croeso i chi gysylltu â Geraint Wilson-Price, Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Gwent:

geraint.wilson-price@coleggwent.ac.uk

Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn hanfodol.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) os yn briodol.

Sylwch y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Bydd swyddi darlithio yn gofyn am gymhwyster addysgu (e.e. TAR) neu barodrwydd i ennill un gyda chyfnod penodol o amser. Bydd hyn yn ofynnol o dan eich contract cyflogaeth a chofrestriad CGA.

Yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn sail i hyn a byddwn yn glynu wrthi ar bob cam o’r broses recriwtio.

Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn wedi’u hymgorffori yn ein hymarferion gwaith o ddydd i ddydd gyda’n dysgwyr, ein cydweithwyr a’n partneriaid.

Rydym yn gwybod mai’r timau mwyaf llwyddiannus yw’r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn sail i’n diwylliant yn Coleg Gwent. Rydym yn dymuno i bob unigolyn deimlo’n hyderus, teimlo’n falch a theimlo ei fod yn gallu bod ei wir hunan yn y gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy’n meddwl yn wahanol ac rydym yn hyblyg i ddarparu ar gyfer talent niwroamrywiol.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliaeth a chynyddu amrywiaeth yn y Coleg trwy chwalu rhwystrau a chefnogi pob aelod o staff i gyrraedd ei botensial. I sicrhau cynrychiolaeth well yn ein gweithlu, croesawn geisiadau, yn benodol, gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl dduon, pobl Asiaidd, a phobl o leiafrifoedd ethnig, menywod, pobl LGBTQ+, pobl anneuaidd a phobl gydag anableddau. Gyda’n gilydd, rydym yn parhau i greu gweithle sydd, nid yn unig, yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr, ond sydd, hefyd, yn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad ieithoedd eraill a phawb, beth bynnag eu hoedran, statws priodasol neu bartneriaeth sifil (un rhyw neu ddau ryw), nam neu gyflwr meddygol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, yn unol â’n Polisi Cyfleoedd Cyfartal. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddïo ar gael.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac rydym wedi ymlynu wrth y Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon. Mae 6 Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd (Enabled, Men’s Alliance, Women Together, Cynefin, LGBTQ+ a Race Alliance) yn allweddol o ran cefnogi’r gwaith hwn a darparu cymorth i gymheiriaid.

Beth sy’n dod â ni ynghyd?

Rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant o gynhwysiant sy’n grymuso ein pobl i ffynnu ac sy’n meithrin ymdeimlad o berthyn.

I gefnogi’r Coleg i fod yn gymuned sy’n llawn parch, mae gennym grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Gwrandewch ar ein Hyrwyddwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn siarad am y rhesymau eu bod mor angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – Dolen yn y ddogfen ynghlwm.

Mae eich lles o bwys

Mae eich lles yn bwysig i ni. Rydym yn dymuno sicrhau y gallwch chi wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a chyrraedd eich potensial llawn. Mae rhaglen o weithgareddau lles drwy gydol y flwyddyn ac mae’r ap Headspace ar gyfer yr holl staff yn sail i hynny. Mae’n cynnwys detholiad amrywiol o fyfyrdodau ar gyfer anghenion dechreuwyr a’r rhai mwy profiadol. Hefyd, mae gennym ni Bartneriaid sy’n hyrwyddwyr iechyd meddwl hyfforddedig a mynediad cymorthdaledig at gampfa. Rydym yn benderfynol o greu amgylchedd sy’n cefnogi iechyd meddwl ac iechyd corfforol pawb.

Dyddiad Cau: 21/05/25

Dyddiad Cyfweliad: I'w gadarnhau