MANYLION
  • Lleoliad: Various locations in the Borough,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Gofal Plant

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cynorthwy-ydd Gofal Plant
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n recriwtio Cynorthwy-ydd Gofal Plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Oriau gwaith: 31 Oriau (Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher Dydd Gwener-08:40 – 15:10 Dydd Iau – 08:30 – 16:00) Yn Ystod y Tymor yn Unig 39 wythnos
Math o gontract: Rhan Amswer/ Cyfnod Penodol Tan 31ain Mawrth 2025
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaeth Gofal Plant Dechrau'n Deg ehangach.

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £17,316 - £19,143 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfle cyffrous newydd o fewn ein Gwasanaeth Gofal Plant Dechrau'n Deg bywiog ar gyfer Cynorthwyydd Gofal Plant newydd. Bydd y swydd hon yn gontract tymor penodol am 31 awr yr wythnos hyd at 31ain Mawrth 2025.

Byddwch chi'n cael eich lleoli'n bennaf yn ein lleoliad Gofal Plant Graig-y-rhaca, fodd bynnag, oherwydd natur y gwasanaeth, efallai y bydd angen i ddeiliad y swydd cynorthwyo lleoliadau Dechrau'n Deg eraill ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili o bryd i'w gilydd.

Mae hon yn rôl allweddol lle bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo’r tîm drwy weithio yn unol â chanllawiau Dechrau’n Deg, Rheoliadau Gofal Plant, a safonau gofynnol cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae'r Cynorthwyydd Gofal Plant yn rhan o dîm gofal plant sy'n helpu darparu gofal plant o ansawdd uchel ac sy'n sefydlu perthnasoedd effeithiol gyda rhieni/gofalwyr a phlant. Rhan allweddol o'r rôl hon yw helpu monitro a gwerthuso'r rhaglen a gweithio gyda'r tîm i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol a safonau ar gyfer darpariaeth gofal plant gofrestredig.

Mae'r swydd amrywiol a diddorol hon yn hyrwyddo amgylchedd cynhwysol a pharchus, gan gynorthwyo plant ag anghenion ychwanegol a datblygol ochr yn ochr â gweithio gyda phartneriaid amlasiantaethol i gyflwyno'r rhaglen yn ddi-dor.

Mae'n ofynnol i'r Cynorthwyydd fod â chymwysterau Lefel 2 neu Lefel Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD) o fewn y cymhwyster perthnasol fel sydd wedi'u hamlinellu ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfarwydd â Chanllawiau Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Plant o Ansawdd Da. Am ragor o fanylion, gweler y Disgrifiad Swydd.

Bydd deiliad y swydd yn cael ei leoli mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, ond rydyn ni'n annog defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol drwy gydol y sesiynau. Yn ddelfrydol, hoffem ni recriwtio siaradwr neu ddysgwr Cymraeg wrth i ni symud tuag at gynnig gofal plant dwyieithog Dechrau’n Deg, ond rydyn ni'n deall y cyfyngiadau y gallai hyn ei roi ar ymgeiswyr, felly, byddem ni'n croesawu rhywun sy’n fodlon dysgu’r Gymraeg fel lleiafswm.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
  • Cyflawni cymhwyster lefel 3 CGC Gofal Plant Dysgu a Datblygu o fewn y flwyddyn gyntaf o gyflogaeth
  • Tystysgrif Lefel 2 CACHE mewn cymhwyster Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant neu gymhwyster perthnasol tebyg
  • Trwydded yrru Categori B llawn y DU a modd i ddefnyddio cerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i weithio mewn gwahanol leoliadau ledled y fwrdeistref

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.

Gweler y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person sydd ynghlwm am fanylion llawn, fodd bynnag, os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â Fiona Santos ar 07810 438505/santof@caerffili.gov.uk neu Jacquline Smith ar 07525 886778/smithj4@caerffili.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk

am ragor o wybodaeth

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.