MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gweinyddwr Systemau Rhwydwaith

Coleg Sir Gar
Gweinyddwr Systemau Rhwydwaith
Application Deadline: 10 April 2024

Department: Gwasanaethau Cyfrifiadurol

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Graig

Reporting To: Pennaeth Gwasanaethau Cyfrifiadurol

Compensation: £33,850 - £39,375 / blwyddyn
DescriptionMae hon yn swydd allweddol fydd yn cynnwys dylunio, datblygu a chefnogi systemau mewnol ac allanol y coleg. Bydd y rôl yn gofyn am sgiliau datblygu rhwydwaith, datblygu rhaglenni, cymorth a sgiliau datrys problemau rhagorol. Bydd deilydd y swydd yn ymwneud â safonau a phrosesau rheoli'r gwasanaeth datblygu a chymhwyso a rheolaeth y defnyddwyr, newid systemau, uwchraddio a phrofi meddalwedd, a rhyddhad rheoledig ymarferoldeb newydd. Bydd y rôl yn ymuno â thîm sy'n parhau i gefnogi, datblygu a sefydlu technolegau newydd i sicrhau dibynadwyedd a chysondeb systemau lluosog ar draws y coleg.

Fel sefydliad corfforaethol sy'n gwasanaethu anghenion Addysg Bellach ac Addysg Uwch, mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth ymatebol a phroffesiynol i staff a myfyrwyr. Un o'r swyddogaethau eang sy'n rhychwantu'r Coleg cyfan yw Technoleg Gwybodaeth, ac yn benodol, y modd y cymhwysir hyn i waith dysgu'r myfyrwyr.

Mae gan y Coleg dros ddwy fil o gyfrifiaduron personol wedi'u rhwydweithio a bron i 400 o gyfrifiaduron Macintosh i'w defnyddio ar gyfer addysgu/dysgu a chynnal busnes; mae'r holl gyfrifiaduron personol yn rhedeg Windows 10 fel system weithredu'r bwrdd gwaith. Mae'r coleg yn darparu cysylltiad 1Gbps i'r bwrdd gwaith gyda meingefn ffibr 10 Gigabeit yn rhedeg drwy bob un o gampysau Coleg Sir Gâr a chysylltiadau cyflym â Choleg Ceredigion.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Darparu cefnogaeth 3edd linell o ansawdd ar gyfer caledwedd a meddalwedd i staff y Coleg, myfyrwyr a sefydliadau cysylltiedig i nodi ac atgyweirio diffygion sy'n gysylltiedig â meddalwedd, caledwedd a'r rhyngrwyd yn gyflym ac yn effeithlon.
  • Cofnodi pob problem/cais yn gywir ar system desg gymorth y coleg.
  • Cymryd cyfrifoldeb dros reoli galwadau desg gymorth, datrys diffygion a gweithredu unrhyw geisiadau am newid
  • Cymryd perchnogaeth ar broblemau defnyddwyr a bod yn rhagweithiol wrth ddelio â materion defnyddwyr
  • Cymryd cyfrifoldeb dros gynnal sganiau gwendidau ac adolygiadau diogelwch ar y rhwydwaith mewnol ac allanol, gweinydd, rhaglenni, gwendidau dyfeisiau, technoleg gwe a thechnoleg symudol
  • Dylunio, datblygu, rhaglennu a phrofi unedau rhaglenni meddalwedd a systemau sy'n ffitio o fewn saernïaeth gyffredinol gan sicrhau dibynadwyedd, sefydlogrwydd, amser ymateb, graddiadwyedd, diogelwch, a rhwyddineb cynnal a chadw systemau
  • Datblygu a chefnogi sgriptiau wedi'u teilwra i awtomeiddio tasgau gweinyddu systemau gan gynnwys copïau wrth gefn o weinyddion a data, monitro cofnodion gweinyddion a phrofi a defnyddio rhaglenni
  • Gosod, ffurfweddu a chefnogi rhaglenni caledwedd a meddalwedd newydd
  • Ymgymryd â'r gwaith o fonitro a datblygu seilwaith rhwydwaith y coleg yn barhaus
  • Ymgymryd â'r gwaith cynnal a chadw dyddiol a datrys problemau, patsys system weithredu, uwchraddio meddalwedd, a ffurfweddu caledwedd arferol
  • Cynllunio gwelliannau yn y dyfodol, gan awgrymu datrysiadau TG i broblemau busnes
  • Creu a chynnal dogfennaeth a manylebau systemau
  • Cynorthwyo i drosglwyddo rhaglenni sydd newydd eu datblygu i gefnogi staff
  • Datblygu rhwydwaith a systemau'r coleg yn barhaus i wella profiad staff a myfyrwyr
  • Sicrhau bod gan yr adran Gwasanaethau Cyfrifiadurol gynllun adfer ar ôl trychineb digonol, sy'n cynnwys profi prosesau a gweithdrefnau
  • Dylunio, datblygu ac integreiddio systemau presennol a newydd y coleg
  • Darparu arbenigedd technegol, cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar ddylunio a thechnoleg o fewn eich cylch gwaith

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Gall cymwysterau academaidd gynnwys BTEC HNC/HND mewn pwnc yn gysylltiedig â Thechnoleg Gwybodaeth a/neu gymwysterau Proffesiynol mewn amgylcheddau Microsoft/Microfocus neu Linux
  • O leiaf 3 blynedd o brofiad a gwybodaeth ymarferol o dechnoleg gwybodaeth yn y gwaith
  • Profiad o raglenni ac offer rheoli rhwydweithiau a systemau
  • Profiad o gysylltu â chyflenwyr caledwedd a meddalwedd 3ydd parti
  • Dealltwriaeth gadarn o lwybro, switsio a thechnegau datrys problemau rhwydwaith
  • Dealltwriaeth gadarn o osod, ffurfweddu a chefnogi systemau gweithredu gweinyddion gan gynnwys Linux a Windows
  • Profiad profedig o osod rhaglenni meddalwedd ac awtomeiddio'r broses
  • Gwybodaeth a phrofiad amlwg mewn dadansoddi problemau, diffygion a rheoli gwybodaeth, datrysiadau a thechnegau cyflwyno
  • Profiad o gymorth a seilwaith rhwydweithiau gwifrog a di-wifr
Dymunol:
  • TGAU Saesneg neu Lefel O - o leiaf Gradd C neu (CSE Gradd 1 cyfwerth)
  • TGAU Mathemateg neu Lefel O - o leiaf Gradd C neu (CSE Gradd 1 cyfwerth)
  • Profiad o brotocol llwybro BGP
  • Profiad o systemau rheoli hunaniaethau
  • Profiad o reoli seilwaith rhithwir
  • Y gallu i ddeall, diweddaru ac ysgrifennu sgriptiau llinell orchymyn gan ddefnyddio PHP a bash
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein