MANYLION
  • Lleoliad: Ammanford, SA18 3TA
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Technegydd mewn Adeiladu

Coleg Sir Gar
Technegydd mewn Adeiladu
Application Deadline: 15 May 2024

Department: Adeiladu

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Rhydaman

Reporting To: Penaethiaid Adrannau: Adeiladu

Compensation: £23,151 - £26,493 / blwyddyn

DescriptionBydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar gymhwyster Lefel 2/3 o leiaf mewn crefftau Adeiladu neu brofiad maes perthnasol yn y diwydiant, ynghyd â brwdfrydedd angerddol am ddysgu a datblygiad.

Yn y rôl hon byddwch yn cefnogi'r tîm galwedigaethau coed yn bennaf ond bydd disgwyl i chi hefyd gyfrannu at yr holl ofynion cymorth technegol o fewn y Maes Cwricwlwm

Lleolir y ddarpariaeth adeiladu ar Gampws Rhydaman ac mae'n cynnwys crefftau adeiladau, gwasanaethau adeiladau, ysgolion, adeiladu technegol ac addysg uwch. Mae rhan o'r ddarpariaeth ysgolion hefyd yn cael ei chyflwyno oddi ar y safle yn ysgol Bryngwyn. Mae gan dîm y Maes Cwricwlwm dros ddeg ar hugain o aelodau llawn amser a rhan-amser sy'n cynnwys staff addysgu, asesu a chefnogi. Mae gan y Maes Cwricwlwm hefyd gysylltiadau helaeth â'r diwydiant, ac mae wedi ennill sawl gwobr genedlaethol am bartneriaethau cydweithredol.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Ddarparu cefnogaeth a chymorth technegol ar gyfer gwaith dysgu ac addysgu o fewn eich maes, gan ymateb i anghenion myfyrwyr, staff academaidd a'r arweinydd (arweinwyr) cwrs perthnasol;
  • Cynnal a chadw amgylchedd gwaith glân a diogel, gan gydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch;
  • Paratoi, cynnal a diweddaru dogfennau Iechyd a Diogelwch perthnasol megis Asesiadau Risg, Systemau Gwaith Diogel, cofnodion COSHH a chofnodion cynnal a chadw cyfarpar, trwy gysylltu â thimau cwrs;
  • Cynnal a chadw, uwchraddio a gwasanaethu cyfarpar yn ôl y bwriad, y gofyn neu ar gais; peiriannau coed a pheiriannau a chyfarpar statig a chludadwy eraill yn ymwneud ag adeiladu. Derbyn hyfforddiant perthnasol yn ôl yr angen;
  • Sicrhau bod cyfarpar cwrs, deunyddiau a stoc yn derbyn y gofal priodol a'u bod yn cael eu rheoli, eu cynnal a'u cadw a'u diogelu;
  • Cadw stocrestr stordai ar gyfer nwyddau traul, cyfarpar ac adnoddau cyflwyno;
  • Mynd ati i archebu stoc yn unol â gweithdrefnau ariannol y coleg a diweddaru'r gronfa ddata archebu ar-lein;
  • Darparu gwasanaeth cyflenwi o'r stordai ar gyfer nwyddau traul y cwrs a gwasanaeth benthyca a dychwelyd ar gyfer yr holl gyfarpar adrannol ac eitemau cwrs eraill;
  • Cymryd rhan yng nghyfarfodydd tîm y cwrs; pwyllgorau ymgynghorol myfyrwyr; a chyfarfodydd y maes cwricwlwm yn ôl y gofyn;
  • Cyflawni dyletswyddau sy'n cefnogi gwaith marchnata a hyrwyddo rhaglen y cwrs;
  • Cynorthwyo darlithwyr a myfyrwyr wrth iddynt ymgymryd â gweithgareddau mewn gweithdy, yn unol ag amserlen y cytunwyd arni;
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • O leiaf Cymhwyster Lefel 2/3 mewn crefftau Adeiladu
  • IOSH Rheoli'n Ddiogel (Os nad oes gennych gymhwyster IOSH, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
  • Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch priodol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant priodol)
  • Cymhwyster Cymorth Cyntaf (Os nad oes gennych gymhwyster Cymorth Cyntaf, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
  • Profiad diweddar a pherthnasol o'r maes/meysydd technegol dan sylw
Dymunol:
  • TGAU Saesneg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • TGAU Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Dealltwriaeth dda o'r rôl cymorth technegol mewn Addysg Bellach
  • Bod yn gymwys mewn defnyddio prosesau adeiladu, offer a chyfarpar
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein