MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,304 - £49,933 (Pro Rata ar gyfer swyddi Rhan-Amser)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £32,304 - £49,933 (Pro Rata ar gyfer swyddi Rhan-Amser)
Darlithwyr Saesneg (TGAU a Sgiliau)Swydd ddisgrifiad
Parth Dysgu Torfaen (Cwmbrân)/ Campws Brynbuga
1 x 37 awr yr wythnos (Llawn Amser)
1 x 30 awr yr wythnos (Rhan Amser)
Campws Crosskeys
2 x 37 awr yr wythnos (Llawn Amser)
Campws Dinas Casnewydd
2 x 37 awr yr wythnos (Llawn Amser)
1 x 30 awr yr wythnos (Rhan Amser)
Parth Dysgu Blaenau Gwent (Glyn Ebwy)
1 x 37 awr yr wythnos (Llawn Amser)
1 x 22 awr yr wythnos (Rhan Amser)
Rydym yn awyddus i benodi athrawon rhagorol gydag angerdd, brwdfrydedd ac ymrwymiad i sicrhau bod y safonau uchaf oll yn cael eu cyflawni wrth gyflwyno cymwysterau TGAU Saesneg Iaith, Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu a Agored i ddysgwyr ôl-16 ar raglenni amser llawn ar gyfer Medi 2025.
Os ydych chi'n chwilio am her gyrfa, mae'r cyfleoedd hyn yn argoeli i fod yn wobrwyol ac yn foddhaus. Byddwch yn addysgu ac yn cefnogi ystod amrywiol o bobl ifanc ac oedolion i'w galluogi i gyflawni cam nesaf eu gyrfa neu ddyheadau addysgol.
Yn ddelfrydol, bydd gennych radd anrhydedd mewn Iaith Saesneg, neu bwnc cysylltiedig, ond nid yw'n hanfodol. Bydd gennych lefel A mewn Iaith Saesneg gradd (A-C) a TAR/Tystysgrif. Ed.
Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i flaenoriaethu a chydlynu llwyth gwaith heriol. Byddwch yn llawn cymhelliant ac yn rhywun a all ddatblygu perthynas dda yn gyflym â dysgwyr a chydweithwyr.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Arweinydd Dysgu – Saesneg i baratoi dysgwyr ar gyfer asesiad a byddwch yn ymgysylltu â staff maes cwricwlwm i’w hysbysu am gynnydd eu dysgwyr.
Fel rhan o'r broses recriwtio, bydd ymgeiswyr yn ymgymryd â micro-ddysgu 45 munud, asesiad a chyfweliad ffurfiol.
Mae’r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) os yn briodol.
Sylwch y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Bydd swyddi darlithio yn gofyn am gymhwyster addysgu (e.e. TAR) neu barodrwydd i ennill un gyda chyfnod penodol o amser. Bydd hyn yn ofynnol o dan eich contract cyflogaeth a chofrestriad CGA.
Yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn sail i hyn a byddwn yn glynu wrthi ar bob cam o’r broses recriwtio.
Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn wedi’u hymgorffori yn ein hymarferion gwaith o ddydd i ddydd gyda’n dysgwyr, ein cydweithwyr a’n partneriaid.
Rydym yn gwybod mai’r timau mwyaf llwyddiannus yw’r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn sail i’n diwylliant yn Coleg Gwent. Rydym yn dymuno i bob unigolyn deimlo’n hyderus, teimlo’n falch a theimlo ei fod yn gallu bod ei wir hunan yn y gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy’n meddwl yn wahanol ac rydym yn hyblyg i ddarparu ar gyfer talent niwroamrywiol.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliaeth a chynyddu amrywiaeth yn y Coleg trwy chwalu rhwystrau a chefnogi pob aelod o staff i gyrraedd ei botensial. I sicrhau cynrychiolaeth well yn ein gweithlu, croesawn geisiadau, yn benodol, gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl dduon, pobl Asiaidd, a phobl o leiafrifoedd ethnig, menywod, pobl LGBTQ+, pobl anneuaidd a phobl gydag anableddau. Gyda’n gilydd, rydym yn parhau i greu gweithle sydd, nid yn unig, yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr, ond sydd, hefyd, yn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad ieithoedd eraill a phawb, beth bynnag eu hoedran, statws priodasol neu bartneriaeth sifil (un rhyw neu ddau ryw), nam neu gyflwr meddygol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, yn unol â’n Polisi Cyfleoedd Cyfartal. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddïo ar gael.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac rydym wedi ymlynu wrth y Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon. Mae 6 Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd (Enabled, Men’s Alliance, Women Together, Cynefin, LGBTQ+ a Race Alliance) yn allweddol o ran cefnogi’r gwaith hwn a darparu cymorth i gymheiriaid.
Beth sy’n dod â ni ynghyd?
Rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant o gynhwysiant sy’n grymuso ein pobl i ffynnu ac sy’n meithrin ymdeimlad o berthyn.
I gefnogi’r Coleg i fod yn gymuned sy’n llawn parch, mae gennym grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Gwrandewch ar ein Hyrwyddwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn siarad am y rhesymau eu bod mor angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – Dolen yn y ddogfen ynghlwm.
Mae eich lles o bwys
Mae eich lles yn bwysig i ni. Rydym yn dymuno sicrhau y gallwch chi wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a chyrraedd eich potensial llawn. Mae rhaglen o weithgareddau lles drwy gydol y flwyddyn ac mae’r ap Headspace ar gyfer yr holl staff yn sail i hynny. Mae’n cynnwys detholiad amrywiol o fyfyrdodau ar gyfer anghenion dechreuwyr a’r rhai mwy profiadol. Hefyd, mae gennym ni Bartneriaid sy’n hyrwyddwyr iechyd meddwl hyfforddedig a mynediad cymorthdaledig at gampfa. Rydym yn benderfynol o greu amgylchedd sy’n cefnogi iechyd meddwl ac iechyd corfforol pawb.
Nodwch eich lleoliad a'ch oriau dewisol yn yr adran Gwybodaeth Ategol Bellach ar y ffurflen gais (Tudalen 6).
Dyddiad Cau: 18 Mai 2025
Dyddiadau Cyfweliad: 03 a 04 Mehefin 2025