MANYLION
  • Lleoliad: Noted in the Job Description,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Grwp Llandrillo Menai
Byddwch yn ymuno gyda thîm o ddarlithwyr sydd yn darparu'r addysg ar y cyrsiau Addysg Bellach ac Addysg Uwch Iechyd a Gofal. Mae 160 o fyfyrwyr yn astudio'n ddwyieithog o fewn yr Adran Iechyd a Gofal ar draws y ddau gampws yn Nolgellau a Phwllheli. Rydym yn cynnig cyrsiau Lefel 2 a Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu ar y cyrsiau Lefel 2 ac Lefel 3 mewn Iechyd a gofal ymdeithasol a Gofal Plant. Mae llwyddiant yr adran wedi ei selio ar addysgu a rhoi cyfleodd o'r safon uchaf i'n dysgwyr.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/219/24

Cyflog
£30,619.64 - £47,330.98 y flwyddyn

Lleoliad Gwaith
  • Wedi ei nodi yn y Swydd Ddisgrifiad

Hawl gwyliau
  • 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol
  • Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.
  • Bydd contractau rhan amser yn derbyn hawl pro rata i'r uchod.
  • Bydd contractau Amser Tymor yn derbyn hawl pro rata i'r uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.

Patrwm gweithio
Llawn Amser

Dros Dro at Gorffennaf 2025

37 awr yr wythnos

835 awr o amser addysgu blynyddol - 24 i 26 awr yr wythnos.

Hyd at 5 awr yr wythnos o weithio oddi ar safle drwy gytundeb a'r rheolwr.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
04 Ebr 2024
12:00 YH(Ganol dydd)