MANYLION
  • Lleoliad: Noted in the Job Description,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Uwch Oruchwyliwr Cyllid a Chydymffurfio

Grwp Llandrillo Menai
Mewn perthynas ag is-set benodol o Brosiectau a Ariennir gan Grant:

1 Bod yn ffynhonnell arbenigol GLlM ac yn gynghorydd terfynol ar y dehongliad cywir o reolau ariannu cynlluniau grant a ariennir yn allanol - mewn perthynas â chymhwysedd y gwariant a'r gofynion o ran tystiolaeth ategol.

2 Gweithredu fel dirprwy ffurfiol i Reolwr yr Uned Cyllid Allanol yn ôl yr angen, yn enwedig pan fo angen darparu gwybodaeth a chyngor arbenigol am gynlluniau grant a chyflwyno hawliadau, a bod yn bresennol i roi cyngor mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol.

3 Cynorthwyo i ddatblygu, cynnal a chadw, gweithredu ac adolygu systemau o'r fath.

4 Cynorthwyo i sicrhau bod systemau a phrosesau perthnasol a grëir i gefnogi hawliadau grant a ariennir yn allanol yn cydymffurfio â rheoliadau ariannol a chaffael GLlM, a bod yr holl dystiolaeth o hawliadau (yn anariannol ac ariannol) yn gadarn.

5 Goruchwylio is-dîm o 3 neu 4 yn yr Uned Cyllid Allanol, mewn perthynas ag is-set benodol o brosiectau, fel y'u pennir gan Reolwr yr Uned Cyllid Allanol.

6 Sicrhau bod hawliadau grant cywir yn cael eu cyflwyno mewn modd amserol ar gyfer is-set o gynlluniau grant yn unol â rheolau'r cynllun grant perthnasol.

7 Rheoli'r gwaith cysylltu a samplu ar gyfer archwiliadau cydymffurfio rheolaidd hyd at eu cwblhau mewn perthynas â'r holl gyllidwyr grant perthnasol (5xAwdurdod Lleol; Llywodraeth Cymru; Llywodraeth y DU; Bargen Twf Gogledd Cymru; Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth; Bwyd-Amaeth; ac Incwm Masnachol; ac ati; yn ôl yr angen).

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CS/218/24

Cyflog
£33,901 to £39,437 y flwyddyn

Lleoliad Gwaith
  • Wedi ei nodi yn y Swydd Ddisgrifiad

Hawl gwyliau
28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).

Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.

Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.

Patrwm gweithio
Llawn amser

Parhaol

37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
04 Ebr 2024
12:00 YH(Ganol dydd)