MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol)

Coleg Penybont
Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau'r Dyfodol)

Disgrifiad o'r swydd Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol)

Llawn Amser (37 awr yr wythnos) a Pharhaol
Cyflog: £91,600 - £101,600

Pwrpas y Swydd: Gweithio mewn partneriaeth ag aelodau eraill o’r Uwch Dîm Arwain er lles y Coleg, ei fyfyrwyr, staff, yr amgylchedd lleol a chymunedau ehangach. Darparu arweinyddiaeth ysbrydoledig a chyfrannu at weledigaeth strategol ymgysylltiol ar gyfer y Coleg a chyflawni hynny.

I gael rhagor o wybodaeth, ac i weld disgrifiad o'r swydd a’r fanyleb y person llawn, gwelwch y:

Rhagair gan Gadeirydd y Corff Llywodraethu

Pecyn Gwybodaeth Swydd

Dyddiad cau: 08/04/2024

Dyddiad cyfweliad: 29/04/2024

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion. Bydd gofyniad hefyd i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn y categori uwch arweinydd ar gyfer Sefydliadau Addysg Bellach.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.