MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Cyflogadwyedd a Menter

Y Coleg Merthyr Tudful
SWYDD GRADD 3

37 awr yr wythnos x 38 wythnos y flwyddyn (adeg tymor yn unig)

Cyfnod Penodol tan 31/07/2025

Mae'r Coleg Merthyr Tudful yn dymuno penodi Hyfforddwr Cyflogadwyedd a Menter i gefnogi 'Rhaglen Cyflogadwyedd a Menter Llwybrau'r Dyfodol' y coleg, gan ddarparu cyngor, arweiniad a mentrau cymorth allweddol i helpu dysgwyr i ddatblygu a gwella eu sgiliau cyflogadwyedd a'u profiad.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am weithio o fewn tîm Cyflogadwyedd a Menter Llwybrau'r Dyfodol, i gyfrannu a chefnogi cyflawni amcanion a thargedau Cyflogadwyedd a Menter y coleg yn llwyddiannus.

Mae gwiriad DBS a chofrestriad CGA yn ofynion i'r swydd hon.

Dyddiad cau ar gyfer ffurflenni cais yn unig : 05/04/2024