MANYLION
  • Lleoliad: Ystrad Mynach,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth Ysgol Gymraeg Penalltau

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Pennaeth Ysgol Gymraeg Penalltau
Disgrifiad swydd
Ysgol Gymraeg Penalltau

PENNAETH - GRŴP 2 YUY L13–L19

I ddechrau ar 1 Medi 2024 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny (yn dilyn yr holl wiriadau diogelu a recriwtio)

Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau gan athrawon dynamig, profiadol sydd â chymwysterau addas ar gyfer swydd Pennaeth yr ysgol gynradd lwyddiannus hon. Mae’r ysgol yn darparu addysg ar gyfer dysgwyr rhwng tair ac un ar ddeg oed.

Cafodd Ysgol Penalltau ei sefydlu yn 2009 ac mae'n ysgol gynradd Gymraeg sy'n ffynnu, gyda chorff staff ymroddedig a medrus. Mae nifer y disgyblion wedi cynyddu i dros 227 gyda disgwyl i'r niferoedd gynyddu dros y 2 flynedd nesaf.

Mae'r ysgol wedi'i lleoli ar safle hanesyddol Glofa Penallta ger Ystrad Mynach ac mae wrth galon cymuned Cwm Calon, sy'n cwmpasu'r ysgol.

Parch, Parodrwydd, Perthyn yw arwyddair yr ysgol, sy'n crynhoi gwerthoedd a phwrpas Ysgol Penalltau'n berffaith, ac sy'n cael ei adlewyrchu ym mhob agwedd ar fywyd ysgol.

Mae llywodraethwyr yn gweld y cyfle hwn fel her gyffrous i arweinydd brwdfrydig a medrus. Maen nhw'n awyddus i benodi rhywun sydd â'r canlynol:

  • Angerdd dros gyflwyno safonau addysg eithriadol drwy'r Gymraeg, ac ymrwymiad i dyfu'r Gymraeg.
  • Llwyddiant blaenorol o arferion ystafell ddosbarth rhagorol;
  • Sgiliau arwain a rheoli rhagorol;
  • Profiad da o ddarparu ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol sylweddol;
  • Gweledigaeth glir a disgwyliadau uchel ar gyfer gwella ysgolion;
  • Sgiliau personol ac adeiladu tîm ardderchog;
  • Dealltwriaeth dda iawn o’r cwricwlwm sgiliau a dysgu proffesiynol;
  • Agwedd gadarnhaol iawn at arloesi a newid; ac
  • Ymrwymiad cryf i weithio'n agos gyda llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach.

Bydd y Llywodraethwyr yn darparu cymorth ardderchog i'r ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn dangos ymrwymiad cryf i weithio'n agos gyda nhw i ddarparu arweinyddiaeth o ansawdd uchel a'r addysg orau bosibl i blant.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, 5 Ebrill 2024.

Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio ddydd Llun, 22 Ebrill 2024.

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ddydd Llun, 29 Ebrill 2024.

Byddwn ni'n gwahodd ymgeiswyr ar y rhestr fer i ymweld â'r ysgol ddydd Gwener 26 Ebrill 2024 am 9.30am am daith o amgylch yr ysgol ac i gwrdd â’r cyngor ysgol.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau.

Gwnewch gais ar-lein isod neu, fel arall, i ofyn am becyn cais ar bapur, cysylltwch â'r Tîm Recriwtio ar 01443 866522 neu minicom 01443 864303.

Dylai ffurflenni cais gael eu dychwelyd i'r Tîm Recriwtio Corfforaethol, Gwasanaethau Personél Corfforaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG.

Mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom ni i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Os cewch chi eich gwahodd i gyfweliad, byddwn ni'n gofyn i chi ddarparu dogfennau priodol, fel eich tystysgrif geni lawn/pasbort/trwydded waith, yn unol â Deddf Lloches a Mewnfudo 1996.

Mae'r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal yn achos pob ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Croeso i chi gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg.Ni fydd unrhyw gais sy'n cael ei gyflwyno yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sy'n cael ei gyflwyno yn y Saesneg.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hil 1976.

Os cewch chi unrhyw anhawster wrth wneud cais ar-lein, cysylltwch â GweRecriwtio@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth.