MANYLION
  • Lleoliad: Ystrad Mynach,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gweithiwr Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gweithiwr Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Amser Llawn
Lleoliad: Canolfan Rhagoriaeth Chwaraeon – Ystrad Mynach

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden ehangach.

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £23,500 - £23,893 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Fel Gweithiwr Chwaraeon a Chyfleusterau, byddwch chi'n chwarae rhan ganolog yn y gwaith o hwyluso cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden ar lefel perfformio ac ar lawr gwlad. Nid swydd yn unig yw'r cyfle hwn; mae'n gyfle datblygu wedi'i deilwra ar gyfer unigolion sy'n awyddus i ehangu eu sgiliau a chael effaith sylweddol.

Bydd yr ymgeisydd cywir yn dangos menter, yn croesawu gwaith tîm, yn meithrin partneriaethau ac yn dangos y gallu i weithio'n annibynnol. Bydd yn gweithio mewn lleoliad sy’n caniatáu iddo gydweithio ag amrywiol randdeiliaid, sefydlu a meithrin partneriaethau’n rhagweithiol â chlybiau a sefydliadau a chymryd perchnogaeth o dasgau a phrosiectau sydd â’r cylch gorchwyl o wella’r profiad chwaraeon cyffredinol.

Bydd yn cynnal safonau uchel o iechyd a diogelwch, yn cynyddu hylendid, glendid a chyflwyniad i gynorthwyo rhagoriaeth perfformio a gwelliant parhaus. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn meddu ar y gallu i reoli unrhyw faterion ac awgrymiadau cwsmeriaid yn unol â pholisi a gweithdrefn y Cyngor.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
  • Cymhwyster Lefel 2 ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
  • Cymorth Cyntaf yn y Gwaith.
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmeriaid.

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Leah Elliott ar 01443 864767 neu ebost: elliol@caerphilly.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.