MANYLION
- Lleoliad: Pontllanfraith,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Ebrill, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Hebryngydd Croesfannau Ysgol
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n recriwtio Hebryngwr Croesfan Ysgol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 6 awr 15 munud yr wythnos
Math o gontract: Parhaol, Yn Ystod y Tymor yn Unig
Lleoliad: Ysgol Gynradd Bryn, Ponllanfraith, Coed Duon
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cefnogaeth ar draws y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £3,401.77 - £3,458.66 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Ydych chi'n chwilio am waith gyda phlant?
Ydych chi'n egnïol, yn ofalgar, yn brydlon, yn ddibynadwy ac yn ymroddedig i gadw plant yn ddiogel?
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am oruchwylio disgyblion a cherddwyr eraill i sicrhau eu bod nhw’n croesi'n ddiogel mewn lleoliad penodol wrth fynd i'r ysgol ac wrth adael, gan sicrhau eu hiechyd a diogelwch ar bob adeg.
Mae'r swydd ar gyfer Hebryngwr Croesfan Ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener yn Ysgol Gynradd Bryn a fydd yn cynnwys dwy sifft y dydd, un ar ddechrau'r diwrnod ysgol ac un ar y diwedd. Mae'r safle croesi wedi'i leoli ar Forest Hill/Lon y Bryn, Pontllan-fraith, Coed Duon.
Byddwch chi'n cydymffurfio â'n polisïau ni ac yn sicrhau bod pawb yn cadw at y rheoliadau o fewn y Canllawiau a’r Llawlyfr Hebryngwyr Croesfannau Ysgol.
Rhaid i chi fod yn gyfathrebwr effeithiol a bydd disgwyl i chi gysylltu â rheolwyr, rhieni, dysgwyr a'r ysgol yn llwyddiannus.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Kerry Watkins ar 01443 866538 neu ebost: watkikg@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

- Dealltwriaeth dda o ddefnydd ffyrdd ac ymwybyddiaeth o draffig
- Y gallu I wneud penderfyniadau lle bo’n briodol
- Sgiliau cyfathrebu da