MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cyfarwyddwr Cyllid

Coleg Sir Gar
Cyfarwyddwr Cyllid
Application Deadline: 29 March 2024

Department: Cyllid

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Graig

Reporting To: Prif Swyddog Gweithredu

Compensation: £64,845 - £71,081 / blwyddyn
DescriptionMae gan Goleg Sir Gâr gyfle cyffrous i Gyfarwyddwr Cyllid ymuno â'n tîm uwch arweinyddiaeth yn y coleg.

Mae Coleg Sir Gâr, sy'n cynnwys Coleg Ceredigion (is-gwmni dan berchnogaeth gyflawn), yn Goleg Addysg Bellach mawr, aml safle, wedi'i leoli yn Ne-orllewin Cymru a Gorllewin Cymru, a chanddo saith prif gampws yn Llanelli (y Graig), Caerfyrddin (Pibwrlwyd a Ffynnon Job), Rhydaman, Llandeilo (y Gelli Aur), Aberystwyth ac Aberteifi. Mae ganddo ryw 9,700 o ddysgwyr a rhyw 3,200 o'r rhain yn llawn amser a dros 6,500 yn rhan-amser. Ceir yno tua 650 o ddysgwyr addysg uwch. Cynigia'r Coleg amrywiaeth gynhwysfawr ac eang o addysg academaidd a galwedigaethol a rhaglenni hyfforddi sy'n amrywio o lefel cyn mynediad i lefel raddedig, gan gynnig gwasanaeth i'r gymuned ddysgu gyfan. Prif weithgareddau'r Coleg yw addysg bellach, addysg uwch, dysgu yn y gweithle, darpariaeth ysgol 14-19, hyfforddiant proffesiynol, ymgynghori a chyflwyno mentrau'r Llywodraeth ym myd diwydiant. Mae'r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth ar-lein, trwy gyfrwng partneriaethau mewn lleoliadau cymunedol ac yn y gweithle. Amrywia'r campysau o ran maint a natur gan gynnig amrywiaeth o bynciau. Mae gan y Coleg drosiant blynyddol o tua £54 m ac mae'n cyflogi tua 800 o staff. Ymysg y rhain, mae tua 400 yn ymwneud yn uniongyrchol ag addysgu a 400 yn cyflawni gwaith cefnogol a gweinyddol.

Mae'r tîm Cyllid a Chaffael yn cynnwys 8 aelod staff wedi'u lleoli yng Ngholeg Sir Gâr (Campws y Graig), a 3 aelod staff yng Ngholeg Ceredigion (Campws Aberteifi). Er bod y ddau Goleg yn endidau cyfreithiol ar wahân yn dechnegol, i bob pwrpas, cânt eu trin fel un coleg yn weithredol.

Bydd y Rôl wedi'i lleoli ar ein Campws yn y Graig, sef y mwyaf o'r saith campws ac sydd wedi'i leoli ger pentref Pwll ar arfordir De-orllewin Cymru yn Llanelli. Gyda golygfeydd o benrhyn Gŵyr gerllaw, mae'r Campws yn lle gwych i weithio ac astudio gydag ystod o gyfleusterau addysgu ag adnoddau da a'r Hwb, sef ardal i'r myfyrwyr a ddyluniwyd ar gynllun cyfoes ar gyfer cymorth personol a chyfleoedd dysgu.

Ynglŷn â'r RôlPrif bwrpas rôl y Cyfarwyddwr Cyllid yw:
  • Arwain a rheoli gweithrediadau ariannol a chaffael y sefydliad, gan sicrhau cydymffurfio â'r holl ofynion rheoleiddiol angenrheidiol a pherthnasol.
  • Darparu arweiniad ariannol strategol a gweithredol i gefnogi cenhadaeth a nodau'r sefydliad.
  • Cyfrannu at arweinyddiaeth a rheolaeth strategol y Coleg fel aelod effeithiol o Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Coleg.
  • Cyfrannu at fentrau, a'u gyrru, i gynyddu incwm a lleihau costau heb effeithio ar ansawdd y ddarpariaeth a phrofiad dysgwyr.
  • Bod yn fodel rôl wrth ddatblygu diwylliant y Coleg yn unol â'i werthoedd a'i ymddygiadau penodedig.
Fel aelod o Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Coleg, bydd deilydd y swydd yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad a gweithrediad strategaethau, polisïau a gweithdrefnau'r Coleg ym meysydd Cyllid a Chaffael. Bydd y swydd, o bryd i'w gilydd, yn golygu teithio ar draws Sir Gaerfyrddin a Cheredigion (5 campws yn Sir Gaerfyrddin a 2 yng Ngheredigion), hyblygrwydd mewn oriau gwaith a gweithio o fewn y Brifysgol Sector Deuol (PCYDDS - y mae'r coleg yn is-gwmni iddo).

Mae rôl yn cynnwys cyswllt a chydweithrediad helaeth â budd-ddeiliaid allweddol a chysylltiadau allanol. Mae cysylltu'n agos, bron yn ddyddiol, hefyd yn digwydd gydag aelodau staff ar bob lefel ar draws y sefydliad.

Er mwyn ymateb i heriau'r dyfodol, bydd deilydd y swydd yn cefnogi ymgyrch y Coleg i gynyddu incwm nad yw'n incwm craidd, yn enwedig drwy gyfrannu at fentrau'r Coleg sy'n datblygu busnes masnachol.

Beth fydd ei angen arnochI fod yn llwyddiannus yn y rôl, bydd angen arnoch:
  • Gymhwyster cyfrifyddu perthnasol: ACA; ACCA; CIMA neu CIPFA
  • Profiad o ddefnyddio meddalwedd ariannol soffistigedig, offer ymholi, taenlenni a rhaglenni eraill.
  • Gwybodaeth ymarferol o FRS 102 a safonau a gofynion adrodd perthnasol eraill.
  • Dealltwriaeth o elfennau sylfaenol trethi personol, trethi Corfforaethol a Threth ar Werth y DU.
  • Gafael gadarn ar egwyddorion rheolaethau mewnol a rôl yr archwiliad mewnol ac allanol
  • Arwain a rheoli gyda phrofiad o gynllunio a gweithredu strategol
Mae'r swydd arweinyddiaeth hon yn gofyn am weithiwr ariannol proffesiynol profiadol sydd â chefndir cryf mewn rheolaeth ariannol. Byddai profiad o weithio yn y sector addysg yn fuddiol, ond nid yn hanfodol. Caiff ei ysgogi i wella ei berfformiad ei hun wrth sicrhau perfformiad eraill, gan ei alluogi i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i'r Coleg, ei staff a'i ddysgwyr. Bydd y gallu i arwain a mentora tîm o weithwyr Cyllid a Chaffael proffesiynol yn rhinwedd allweddol sy'n perthyn i'r ymgeisydd llwyddiannus.

O ran sgiliau, gallu a rhinweddau personol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau rheoli pobl cryf ac yn gallu gweithio'n effeithiol dan bwysau, gyda'r gallu i flaenoriaethu a chyflawni. Bydd hi'n ofynnol hefyd i roi sylw rhagorol i fanylion a gwneud penderfyniadau effeithiol bob amser.

Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

I gael mwy o wybodaeth, neu i drefnu sgwrs/cyfarfod anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.

Buddion
  • Byddwch yn cael 37 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 50 diwrnod o wyliau y flwyddyn.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein