MANYLION
  • Lleoliad: Glannau Dyfrdwy,
  • Testun:
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Technegydd - Gwasanaethau Adeiladau (Gosod Trydan) CC/2550

Technegydd - Gwasanaethau Adeiladau (Gosod Trydan) CC/2550

Coleg Cambria
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Technegydd - Gwasanaethau Adeiladau (Gosod Trydan)

Lleoliad: Ffordd y Bers

Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser

Cyflog: £24,111 - £24,717 yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol.

Mae gennym ni gyfle cyffrous i Dechnegydd ymuno a'n tîm Gosod Trydan, Gwasanaethau Adeiladau, i gyflwyno ar ystod o gyrsiau ar ein safle Ffordd y Bers i gefnogi ein twf yn y maes hwn. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad ymarferol helaeth ym maes Gosod Trydan, sy'n gallu gwirio cyfleusterau ac adnoddau o ddydd i ddydd a sicrhau bod gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn cael ei wneud yn ein gweithdai a'n stiwdios er mwyn sicrhau amgylchedd gwaith diogel a threfnus i staff a myfyrwyr.

Byddant yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyfforddi perthnasol ac yn darparu cymorth technegol lle bo angen.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig, yn wydn, ac yn llawn cymhelliant, gydag angerdd am addysg ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth i brofiad ein dysgwyr.

Gofynion Hanfodol

• Cymhwyster Lefel 2, neu gyfwerth, mewn Gosod Trydan

• Safon dda o addysg ar lefel TGAU (neu gymwysterau cyfwerth).

• Ehangder amlwg o brofiad mewn Gosod Trydan

• Profiad helaeth o gynnal cyfarpar gweithdy mawr gan gynnwys gwaith cynnal a chadw rheolaidd.

• Mae profiad o weithio gyda dysgwyr neu brentisiaid yn dra dymunol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'r gwaith a wnawn. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Ni fydd cais sy'n cael ei gyflwyno'n Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn Saesneg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch chi'n gwneud cais amdani ac os ydych chi'n llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer caiff swyddi eu hysbysebu gydag ystod gyflog. Os cynigir swydd i chi yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried i benderfynu ar eich cyflog cychwynnol.

Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai