MANYLION
  • Lleoliad: Ty Penallta,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Llunio Lleoedd a Chymunedau Dysgu Cynaliadwy

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Swyddog Llunio Lleoedd a Chymunedau Dysgu Cynaliadwy
Disgrifiad swydd
*** Mae'r swydd wag hon ond ar gael i weithwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan gynnwys staff asiantaeth sy'n gweithio yn y Cyngor ar hyn o bryd. ***

Rydyn ni'n recriwtio Swyddog Llunio Lleoedd a Chymunedau Dysgu Cynaliadwy yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Amser Llawn
Lleoliad: Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £36,648 - £39,186 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Ydych chi'n awyddus i wneud gwahaniaeth?

Mae gan y Cyngor gynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid a gwella ein gwasanaethau, fel rhan o'n rhaglen gyffrous o newid cadarnhaol sy’n cyflymu ar hyn o bryd ar draws y sefydliad cyfan.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i recriwtio Swyddog Llunio Lleoedd a Chymunedau Dysgu Cynaliadwy. Os hoffech chi gynorthwyo gyda chyflawni prosiectau i alluogi pob rhan o'r Fwrdeistref Sirol ffynnu ac rydych chi'n mwynhau gweithio ar y cyd, yna rydyn ni eisiau clywed gennych chi.

  • Meysydd Canlyniadau Allweddol:
    Cynorthwyo gyda datblygu a chyflawni prosiectau trawsnewid a buddsoddi cyfalaf sydd â’r nod o sicrhau lles amgylcheddol, diwylliannol, economaidd a chymdeithasol Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Byddwch chi'n cael eich annog i ddod â'ch syniadau eich hun i'r tîm a chynorthwyo gyda chyflawni'r rhaglenni newid cyffrous a beiddgar hyn.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod ag ethig gwaith rhagorol, sgiliau cyfathrebu da, ymagwedd ddynamig i'r rôl a gallu arwain drwy esiampl.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:

  • Cymhwyster Lefel 4 perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
  • Dealltwriaeth o drawsnewid mewn lleoliad sector cyhoeddus.
  • Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â safleoedd a mynd i gyfarfodydd.

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Lisa Thomas/Andrea West ar 01443 864830/ 01443 864904 neu ebost: thomal4@caerphilly.gov.uk/ westam@caerphilly.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth