MANYLION
- Lleoliad: Aberteifi, SA43 1AB
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £21.49 - £42.28 / awr
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £21.49 - £42.28 / awr
Darlithydd mewn Peirianneg FodurolDepartment: Arall
Employment Type: Hyblyg
Location: Campws Aberteifi
Compensation: £21.49 - £42.28 / awr
DescriptionMae gan Goleg Ceredigion gyfle cyffrous ar gyfer Darlithydd mewn Peirianneg Fodurol i ymuno â'n tîm Cerbydau Modur prysur ar sail achlysurol, wedi'i leoli ar ein Campws yn Aberteifi. Yn y rôl hon byddech yn gweithio yn un o'n gweithdai cerbydau modur pwrpasol ar gyfer sgiliau gweithgynhyrchu a sgiliau peirianneg fodurol.
Campws Aberteifi Coleg Ceredigion yw prif leoliad y Gyfadran Sgiliau a Thechnoleg ac mae wedi'i leoli ger canol y dref gyda mynediad hawdd i'r holl gyfleusterau lleol. Mae yna Ardal Ymlacio fodern lle gall dysgwyr gymdeithasu, ymlacio neu ailfywiogi rhwng gwersi yn ogystal ag Y Cantîn, sy'n gweini brecwast a chinio. Hefyd, mae gan y campws hefyd Ganolfan Adnoddau Dysgu a Llyfrgell sydd wedi'i staffio'n llawn yn ogystal ag ardaloedd arbenigol i gefnogi addysg a hyfforddiant mewn nifer o Feysydd Cwricwlwm.
Ynglŷn â'r RôlMae'r gweithdai Cerbydau Modur ar Gampws Aberteifi yn fodern ac wedi'u cyfarparu'n dda, ar ôl cael buddsoddiad sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda nifer o geir newydd, cyfarpar diagnostig a rigiau hyfforddi i gefnogi myfyrwyr a phrentisiaid. Mae'r ddarpariaeth yn amrywio o ddarpariaeth cyswllt ysgolion 14-19 hyd at ac yn cynnwys rhaglenni lefel tri.
Bydd deilydd y swydd yn cyfrannu at addysgu ac asesu rhaglenni L1 -3.
Beth fydd ei angen arnochI fod yn llwyddiannus yn y rôl, bydd angen arnoch:
- Cymhwyster lefel 3 neu gyfwerth mewn Peirianneg Fodurol
- Cymhwyster Academaidd Uwch/ Galwedigaethol perthnasol mewn Peirianneg Fodurol
- Cymhwyster addysgu (os nad ydych eisoes yn meddu ar gymhwyster addysgu, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd.)
- Profiad perthnasol yn y diwydiant cerbydau modur
I gael mwy o wybodaeth, neu i drefnu sgwrs/cyfarfod anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.
Yr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1