MANYLION
  • Lleoliad: Various locations in the Borough,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Llesiant Teuluoedd

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gweithiwr Llesiant Teuluoedd
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Llesiant Teuluoedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Cyfnod Penodol Tan 31 ain Mawrth 2025, Llawn Amser
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar ehangach.

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £26,241 - £28,770 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Mae Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili yn recriwtio gweithiwr profiadol i gyflwyno ein hymyraethau cymorth i deuluoedd yn y cartref, yn y gymuned ac yn rhithwir.

Mae'r cymorth yn cynnwys ymyraethau cymorth pwrpasol i deuluoedd, gan weithio gyda'r teulu i fynd i'r afael â gwraidd y materion sydd wedi'u codi. Mae gan y swydd hon ffocws penodol ar gynorthwyo teuluoedd sydd â phryderon ynghylch iechyd meddwl a lles gan fod yn rhan annatod o'r ddarpariaeth cymorth i deuluoedd a thîm ehangach y Blynyddoedd Cynnar. Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys cyflwyno rhaglenni cynenedigol, ôl-enedigol ac amrywiaeth o raglenni rhianta/cymorth i deuluoedd fel sy'n cael eu nodi bod eu hangen gan y teulu. Mae'r holl ymyraethau ar gyfer plant 0-7 oed, gyda'r nod o helpu rhieni, helpu datblygiad eu plentyn a rhoi cymorth o ran gwytnwch teuluoedd.

Mae’r swydd wedi ei lleoli yn y Ganolfan Integredig i Blant, Parc y Felin, ond bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n ystwyth ledled y Fwrdeistref Sirol mewn cartrefi a lleoliadau cymunedol, yn ogystal â gweithio gartref rhywfaint. Mae'r swydd hon yn rhan o dîm ehangach y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ac mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
  • Cymhwyster Lefel 3 perthnasol
  • Phrofiad o weithio gyda phlant 0 i 7 oed a rhieni mewn grwpiau a theuluoedd unigol.
  • Brofiad o gyflwyno pecynnau cymorth i deuluoedd yn y cartref neu yn y gymuned.
  • Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y DU a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd ac ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Ceri-Anne Lovell ar 07850319121 neu ebost: lovelc@caerphilly.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.