MANYLION
- Lleoliad: Various locations in the Borough,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Gweithiwr Llesiant Teuluoedd
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Llesiant Teuluoedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Cyfnod Penodol Tan 31 ain Mawrth 2025
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £26,241 - £28,770 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Mae Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili yn recriwtio gweithiwr profiadol i gyflwyno ein hymyraethau cymorth i deuluoedd yn y cartref, yn y gymuned ac yn rhithwir.
Mae hyn yn cynnwys ymyraethau cymorth pwrpasol i deuluoedd, gan weithio gyda'r teulu i fynd i'r afael â gwraidd y materion sydd wedi'u codi. Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys cyflwyno rhaglenni cynenedigol, ôl-enedigol ac amrywiaeth o raglenni rhianta/cymorth i deuluoedd.
Mae cymorth ar gael i deuluoedd o'r cyfnod cynenedigol ac mae'n canolbwyntio ar Beth sy'n Bwysig i'r teulu. Mae'r holl ymyraethau ar gyfer plant 0-7 oed, gyda'r nod o helpu rhieni, helpu datblygiad eu plentyn a rhoi cymorth o ran gwytnwch teuluoedd.
Bydd y swydd wedi ei lleoli un ai yn y Ganolfan Integredig i Blant, Parc y Felin; Canolfan Gymunedol Gelligaer neu Cherry Tree House ond bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n ystwyth ledled y Fwrdeistref Sirol mewn cartrefi a lleoliadau cymunedol, yn ogystal â gweithio gartref rhywfaint. Mae'r swydd hon yn rhan o dîm ehangach y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ac mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ddysgu Cymraeg sgyrsiol sylfaenol a chael profiad o gyflwyno pecynnau cymorth i deuluoedd yn y cartref neu yn y gymuned ar sail un i un a mewn grŵp.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Ceri-Anne Lovell ar 07850319121 neu ebost: LOVELC@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

- Cymhwyster Lefel 3 perthnasol
- Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd wybodaeth wedi'i diweddaru am gymorth i deuluoedd a datblygiad plant, profiad o weithio gyda phlant 0-7 oed a'u rhieni, yn ogystal â phrofiad o gyflwyno rhaglenni rhianta achrededig gyda chywirdeb.
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y DU a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd ac ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi