MANYLION
- Lleoliad: Ystrad Mynach,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 3) Trinity Fields
Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 3) Trinity Fields
Disgrifiad swydd
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 – 35 awr
Mae Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod yn ysgol arbennig ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 19 oed sydd ag anghenion difrifol a chymhleth. Rydyn ni'n gwasanaethu Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ogystal â chael rhai disgyblion o awdurdodau cyfagos. Mae Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod yn uchel ei pharch ymhlith rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd.
Cawsom ni ein harolygu gan Estyn (Mehefin 2019) a farnodd ein bod ni'n RHAGOROL ym mhob un o’r 5 maes arolygu; yn ogystal â hyn, rydyn ni yn y categori ysgol ‘Gwyrdd’ ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno system genedlaethol ar gyfer categoreiddio ysgolion.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i’r ysgol wrth i ni barhau i ddatblygu partneriaethau ffurfiol gyda’r Awdurdod Lleol ac ysgolion prif ffrwd gyda chanolfannau adnoddau arbenigol, er mwyn gwella deilliannau disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ledled y Fwrdeistref Sirol. Yn ogystal, mae ymgynghoriad ffurfiol wedi dechrau ynghylch adeiladu estyniad gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn cynnwys cyfleusterau o’r radd flaenaf i gynorthwyo rhai o blant a phobl ifanc mwyaf agored i niwed a chymhleth yr Awdurdod Lleol. Gallai'r swydd hon fod yn y prif safle neu yn un o'n darpariaethau lloeren, sy'n golygu y gallech chi fod wedi'ch lleoli am ran o'r wythnos yn ein prif safle a rhan o'r wythnos mewn dosbarth lloeren.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu addysg bersonol achynhwysol iawn i’n holl ddisgyblion, gyda phwyslais ar ddiwallu eu hanghenion unigol a datblygu eu cryfderau a’u diddordebau mewn amgylchedd hynod gefnogol a a meithringar.
Rydyn ni'n Ysgol sy'n Parchu Hawliau. Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac mae ein disgyblion yn ganolog i bopeth rydyn ni'n ei wneud yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod. Dywedodd Estyn, “Mae lefelau lles uchel disgyblion, a’u hagweddau at ddysgu yn gryfder rhagorol. Mae bron pob un o’r disgyblion yn chwarae rhan weithredol a dylanwadol wrth gyfrannu at eu dysgu a llywio bywyd a gwaith yn yr ysgol. Dros amser, mae bron pob un yn datblygu’n ddysgwyr brwdfrydig sy’n mwynhau dod i’r ysgol ac yn caffael dealltwriaeth gref o’u hawliau a’u cyfrifoldebau”.
Mae'r disgyblion yn awyddus i benodi cynorthwyydd addysgu sy'n bodloni’r canlynol:
· Yn deg, yn gyfeillgar ac yn gallu gweithio gyda’u hathrawon i’w helpu nhw i ddysgu mewn llawer o wahanol ffyrdd;
· Yn llawn hwyl, ac a fydd yn gwrando ar eu barn ac yn gweithredu ar eu barn;
· Yn fodel rôl cadarnhaol ac yn dweud wrthyn nhw pan maen nhw’n gwneud yn dda.
Mae’r llywodraethwyr yn awyddus i benodi cynorthwyydd addysgu sy’n bodloni’r canlynol:
· Yn brofiadol, yn ymroddedig iawn ac yn frwdfrydig;
· Yn gallu gweithio'n effeithiol gyda'r disgyblion a'r tîm o staff;
· Yn hyblyg, yn drefnus iawn ac yn deall anghenion disgyblion ag amrywiaeth eang o anawsterau dysgu.
Bydd angen i'r unigolyn sy'n cael ei benodi fod â phrofiad o weithio gyda phlant ag anghenion dysgu dwys a/neu gymhleth mewn lleoliadau arbenigol. Gallai'r swydd hon fod naill ai ar y prif safle neu yn un o'n darpariaethau lloeren.
RHAID i'ch llythyr cais gyfeirio at BOB UN o’r meini prawf HANFODOL, fel sy’n cael eu nodi ym manyleb y person.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn elwa ar raglen sefydlu lawn a chymorth parhaus. Byddwch chi hefyd yn cael mynediad at ein rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus gynhwysfawr.
Mae pecynnau cais ar gael (mae angen anfon amlen barod fawr gyda’ch cyfeiriad a dau stamp dosbarth cyntaf arni) oddi wrth Leanne Gibbs, Rheolwr Busnes, Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod, Caerphilly Road, Ystrad Mynach, Hengoed, De Cymru CF82 7XW. Ffôn: 01443 86600 neu e-bost: trinityfieldsschool@sch.caerphilly.gov.uk Mae ffurflenni cais wedi'u llenwi i'w dychwelyd at Leanne Gibbs yn y cyfeiriad post uchod. Os hoffech chi drafod y swydd ymhellach neu drefnu ymweliad, mae croeso i chi gysylltu â Dave Jenkins, y Pennaeth Gweithredol, ar y rhif uchod.
Mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom ni i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Os cewch chi eich gwahodd i gyfweliad, byddwn ni'n gofyn i chi ddarparu dogfennau priodol, fel eich tystysgrif geni lawn/pasbort/trwydded waith, yn unol â Deddf Lloches a Mewnfudo 1996. Croeso i chi gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais sy'n cael ei gyflwyno yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sy'n cael ei gyflwyno yn Saesneg.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Mae'r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal yn achos pob ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i’r holl staff Cymorth Dysgu (sy’n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.
Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o’ch cofrestriad a’ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ neu drwy ffonio 02920 460099. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.