MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cyfleoedd Prentisiaeth - Meithrinfa Toybox CC/2547

Coleg Cambria
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad 'Rhagorol' yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Aur Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Cyfleoedd Prentisiaeth - Meithrinfa Toybox

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol - (contractau 12 - 24 mis)

Cyflog: Isafswm cyflog cenedlaethol yn dibynnu ar oedran

Prentisiaethau Cambria - Sgiliau go iawn. Hyfforddiant go iaw n

Datblygwch eich sgiliau a chynyddu eich uchelgais wrth i chi weithio, ennill cyflog ac astudio ar gyfer prentisiaeth yng Ngholeg Cambria.

Mae ein prentisiaethau yn ffordd wych o ddechrau ar eich gyrfa, ac maent yn darparu cyfle cyffrous i chi ennill profiad ymarferol yn y gweithle. Byddwch yn darganfod beth allwch chi ei wneud yn dda, yr hyn rydych chi'n angerddol amdano, a byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i feithrin eich sgiliau.

Fel Prentis Cambria, byddwch yn ennill cymwysterau cydnabyddedig ac ennill sgiliau a phrofiad gwaith gwerthfawr i'ch paratoi chi yn y modd gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

P'un a ydych chi'n ymuno â ni o'r ysgol, coleg neu dim ond yn ystyried newid gyrfa, byddwch yn creu gyrfa sy'n rhoi sgiliau a hyfforddiant go iawn i chi o'r diwrnod cyntaf un.

Efallai cewch gynnig gweithgareddau cyfoethogi a chyfleoedd hyfforddi ychwanegol, yn unol ag anghenion y coleg ac a fydd yn gwella eich gwybodaeth a'ch sgiliau.

Rydym yn chwilio am Brentisiaid Gofal Plant i ymuno â'n Meithrinfa Toybox sydd wedi ennill gwobrau.

Amdanoch Chi

I gael eich ystyried ar gyfer un o'n rhaglenni Prentisiaeth, bydd gennych o leiaf 3 TGAU (neu gymwysterau cyfwerth) mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg, gradd C neu uwch (yn amodol ar feysydd prentisiaeth penodol), a byddwch yn dangos sgiliau cyfathrebu rhagorol. Dylech hefyd fod yn gallu defnyddio offer TG yn hyderus, a bod gennych enghreifftiau o weithio mewn tîm.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Ac mi gewch chi

Gyflawni'r canlynol drwy ddilyn Rhaglen Brentisiaethau Cambria:
  • NVQ Lefel 2
  • Sgiliau hanfodol
  • Sgiliau cyflogadwyedd
  • Ennill gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr gyda babanod ifanc, plant bach a phlant oed cyn ysgol mewn meithrinfa dydd brysur a chyffrous.
  • Cymwysterau sy'n gysylltiedig â galwedigaeth (fel y bo'n briodol)

Cyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol presennol ar gyfer prentis yw rhwng £5.28 a £10.42 yr awr yn dibynnu ar oedran

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig