MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend Campus,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweinyddwr (Ty Weston / Coleg Bevan)

Coleg Penybont
Gweinyddwr (Ty Weston / Coleg Bevan)

Disgrifiad o'r swydd
Gweinyddwr (Ty Weston / Coleg Bevan)

Graddfa gyflog 4: £24,429 - £27,109 y flwyddyn
Llawn amser (37 awr yr wythnos) a Cyfnod Penodol am hyd
at 12 mis (Cyfnod Mamolaeth)

Pwrpas y Swydd: Chwarae rhan allweddol wrth gydlynu pob agwedd ar geisiadau, profiad a hawliau darpariaeth dysgwyr o fewn amgylchedd Coleg Arbenigol a Chartref Gofal Cofrestredig. Byddwch yn darparu cymorth gwybodaeth rhagorol i holl aelodau staff Coleg Penybont, cwsmeriaid a rhanddeiliaid allanol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd.

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth o ofynion allweddol Arolygiaeth Gofal Cymru.
  • Profiad o ddefnyddio a chynnal systemau ariannol.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o weithio mewn amgylchedd addysg prysur.

Meini prawf dymunol
  • Ymwybyddiaeth o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Profiad o ddefnyddio systemau cyllid Llywodraeth Cymru.
  • Dealltwriaeth o gyllid Llywodraeth Cymru yn y sector Addysg Bellach.
  • Ymwybyddiaeth o anabledd.

Pecyn gwybodaeth swydd

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.