MANYLION
  • Lleoliad: Gilfach,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Chwefror, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Gilfach Fargoed

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Gilfach Fargoed
Disgrifiad swydd
Mae Llywodraethwyr Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Gilfach Fargod a’r Parc am benodi athro dawnus, brwdfrydig ac ymroddedig i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth mewn dosbarth blwyddyn 2/3. Mae’r llywodraethwyr yn chwilio am ymarferwr medrus ac arloesol, a fydd yn gweithio’n galed i sicrhau parhad dysgu yn ystod absenoldeb yr athro dosbarth. Mae Gilfach Fargod yn Ysgol Rhwydwaith Dysgu ar gyfer mathemateg ac rydyn ni'n falch o'n haddysgeg mathemateg ardderchog; byddai dealltwriaeth o'r dull CPA (diriaethol, darluniol, haniaethol) yn fuddiol iawn.

Rydyn ni'n chwilio am rywun sydd:

  • yn weithgar a brwdfrydig, yn barod i gynorthwyo pob agwedd ar waith yr ysgol a'i hethos cryf a gofalgar;
  • yn athro angerddol ac ysbrydoledig sydd wedi ymrwymo i ddarparu profiadau dysgu apelgar ac effeithiol i blant ifanc, gyda hanes o ymarfer effeithiol;
  • wedi ymrwymo i godi cyrhaeddiad i bawb;
  • yn awyddus i gynnig amrywiaeth o sgiliau a galluoedd personol i gyfoethogi cymuned ein hysgol ni, yn ystod y diwrnod ysgol a thu hwnt;
  • yn deall pwysigrwydd cynnal safonau uchel o lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac sydd â safonau uchel, yn bersonol, yn y meysydd hyn;
  • yn gallu gweithio fel rhan o dîm hynod effeithiol gan gydweithio'n dda iawn gydag athrawon a chynorthwywyr addysgu o fewn y lleoliad;
    yn meddu ar yr ymroddiad i weithio mewn ffederasiwn o ysgolion ffyniannus a blaengar er mwyn datblygu'r ddwy ysgol ymhellach;
  • yn meddu ar sgiliau da o ran rheoli ymddygiad;
  • am fod ar flaen y gad o ran cynllunio'r cwricwlwm a'r agenda ddiwygio.

Rydyn ni'n gallu cynnig y canlynol i chi:

  • plant brwdfrydig sy'n ymddwyn yn dda ac yn mwynhau dysgu; rhieni a llywodraethwyr cefnogol;
  • ysgol groesawgar, ofalgar gydag ethos cadarnhaol, lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn cyflawni'n dda;
  • cyfleoedd rhagorol ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol;
  • ysgol ag adnoddau da gyda llawer o botensial ar gyfer dysgu yn yr awyr agored;
  • cymorth tîm hynod effeithiol sy'n awyddus i gyflawni potensial y cwricwlwm newydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: Dydd Mercher 14 Chwefror.

Bydd cyfweliadau'n digwydd ddydd Mawrth 20 Chwefror.

Mae ffurflenni cais ar gael gan, a dylid eu dychwelyd i:

Catherine Rees, Pennaeth, Ysgolion Cynradd Gilfach Fargod a'r Parc, 01443 875510. Rydyn ni'n croesawu llythyr ategol hefyd.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.