MANYLION
  • Lleoliad: Rhos-on-Sea,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Marchnata a Cyfathrebu

Grwp Llandrillo Menai
Mae tîm Marchnata effeithiol yn hanfodol i lwyddiant parhaus Grŵp Llandrillo Menai.

Mae'r prosiect Lluosi, a ddarperir gan Grŵp Llandrillo Menai, yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU ac mae'n ymwneud â gwella sgiliau rhifedd pobl. Bydd oedolion nad oes ganddynt TGAU gradd C neu gyfwerth eisoes yn gallu cael mynediad at gyrsiau am ddim sy'n cyd-fynd â'u bywydau - boed hynny yn bersonol neu ar-lein, yn y gwaith neu gyda'r nos neu yn rhan amser - gyda chymorth ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion.

Rôl y Swyddog Marchnata a Chyfathrebu yw datblygu a chyflwyno cynlluniau a strategaethau marchnata ar gyfer y Prosiect cyffrous newydd o'r enw Lluosi a ddarperir gan Grŵp Llandrillo Menai.

Mae gan Swyddog Marchnata a Chyfathrebu'r Prosiect Lluosi rhan allweddol i'w chwarae o fewn yr adran, gan gefnogi recriwtio trwy hyrwyddo'r ddarpariaeth ar gyrsiau Lluosi yn effeithiol. Byddant hefyd yn sicrhau bod pob math o gyfathrebu ar gyfer y Prosiect Lluosi o'r safon uchaf ac yn hyrwyddo ystod eang o gyfleoedd a hanesion llwyddiant niferus y prosiect.

Bydd deiliad y swydd yn defnyddio amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth i'w galluogi i gyfrannu'n effeithiol at ddarparu gwasanaeth marchnata a chyfathrebu o'r radd flaenaf, yn allanol ac yn fewnol.

Bydd deiliad y swydd wedi'i leoli ar gampws Llandrillo-yn-rhos, a bydd disgwyl iddo ymweld â champysau ac ardaloedd eraill ar draws rhanbarth Gogledd Cymru yn ôl yr angen.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/190/24

Cyflog
£27,231.81 - £29,550.77 y flwyddyn

Lleoliad Gwaith
  • Llandrillo-yn-Rhos

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos (Gallai fod yn hyblyg i weddu i'r ymgeisydd llwyddiannus)

Dros Dro - hyd at Rhagfyr 2024

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
23 Chwef 2024
12:00 YH(Ganol dydd)