MANYLION
  • Lleoliad: Pontypool, Torfaen, NP4 6YB
  • Pwnc: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

2 X CYNORTHWYYDD ADDYSGU ARBENIGOL (GNG) – CYFRWNG CYMRAEG

Torfaen Local Authority
Bydd dyletswyddau'r cynorthwyydd dysgu ac addysgu arbenigol yn cynnwys cynllunio gweithgareddau dysgu, eu paratoi a’u cyflwyno, a bydd monitro, asesu, cofnodi ac adrodd yn nodweddion allweddol o’r dyletswyddau hyn. Mae cefnogi ethos cynhwysol i bob dysgwr, lle bo cynnydd, cyrhaeddiad a disgwyliadau addysgol yn cyd-fynd â'u hoedran a'u proffiliau gallu, yn allweddol ar gyfer y rôl hon. Yn bennaf, amcan y swydd hon yw cefnogi Athrawon Cymwysedig Nam ar y Golwg ac Arbenigwyr ar Gymhwysiad wrth gefnogi mynediad at ddysgu ac addysg, sgiliau byw'n annibynnol, a sgiliau symudedd a chyfeiriadaeth cynnar ymhlith plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg.

Mae'r cynorthwyydd dysgu ac addysgu arbenigol yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn datblygu sgiliau priodol yn y defnydd o offer arbenigol ac adnoddau ac mae'n cefnogi'r defnydd o dechnoleg ddigidol mewn gweithgareddau dysgu.
Mae'r cynorthwyydd dysgu ac addysgu arbenigol yn cefnogi datblygiad dysgwyr o fewn rhaglenni gwaith y cytunwyd arnynt (Braille/print) gyda ffocws allweddol ar lythrennedd, rhifedd a llesiant. Mae cynnydd mewn meysydd targed yn cael ei fonitro a'i werthuso'n agos er mwyn rhoi adborth gwrthrychol a chywir i athrawon.
Mae'r cynorthwyydd dysgu ac addysgu arbenigol yn paratoi gweithgareddau/ rhaglenni dysgu penodol, yn eu cynllunio ac yn eu rheoli, ac yn sicrhau bod y dysgwr yn magu hyder ac annibyniaeth yn yr ysgol, y cartref a'r gymuned ehangach. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu llythrennedd Braille yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Gellir cael dealltwriaeth well o anghenion y plant a fyddai'n cael eu cefnogi drwy'r rôl hon, yn y fan hon - Curriculum Framework for Children and Young People with Vision Impairment | RNIB | RNIB

Oherwydd natur y rôl hon, rhaid eich bod yn gallu teithio'n annibynnol i fodloni gofynion y swydd. Mae gofyn i chi feddu ar drwydded yrru lawn a chael mynediad at gerbyd.

Byddai'r penodiad yn amodol ar eirda llwyddiannus a gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Sarah Hughes, Pennaeth Gwasanaeth Nam ar y Golwg SenCom. Sarah.Hughes@torfaen.gov.uk

Mae'r swyddi hyn yn ddarostyngedig i Gais am Ddatgeliad Safonol/Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer un o'r swyddi hyn, o leiaf.

Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
E-bostiwch ffurflenni cais wedi'u cwblhau i recruitment@torfaen.gov.uk. Ni dderbynnir CVs.Neu anfonwch y ffurflen gais at: Y Tîm Recriwtio, Llawr 3, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, Torfaen NP4 6YB.

Dyddiad Cau: 12 PM Dydd Gwener 23 Chwefror 2024
Cyfeirnod y Swydd: REQ004560-2302

Dyddiad Tynnu'r Rhestr Fer: Dydd Llun 26 Chwefror 2024
Dyddiadau'r Cyfweliadau: Dydd Llun 4 Mawrth 2024

JOB REQUIREMENTS
Please see attached the job description and person specification for this vacancy.