MANYLION
  • Lleoliad: 5 Spilman Street, Carmarthen,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Uwch Swyddog Gofal Preswyl i Blant

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

2 swydd ar gael.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn trawsnewid ein gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad mawr mewn I cartrefi plant newydd. Ein nod yw cefnogi ac i meithrin plant i aros yn eu cymunedau a ffynnu.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r rheolwr yn un o'n cartrefi newydd. Rydym yn chwilio am unigolyn ysbrydoledig a all weithio ar y cyd ac arwain ac ysgogi cartref therapiwtig, sy'n seiliedig ar drawma ac ymlyniad sydd newydd ei ddatblygu ar gyfer plant 11-17 oed.

Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio darparu model therapiwtig o ofal, gan sicrhau bod y cartref yn cael ei gefnogi gan staff profiadol a medrus iawn sy'n gwrando ar blant, gan ofalu amdanynt. Rydym yn cynnig cyfleoedd sefydlu rhagorol a hyfforddiant parhaus, gan gynnwys eich cefnogi i ennill cymwysterau pellach.

Byddwch yn rhan o wasanaeth preswyl sefydledig ac adran sy'n cynnig goruchwyliaeth a chyfleoedd rheolaidd ar gyfer datblygu pellach. Ein hethos yw darparu meithrin, anogaeth, gofal a chymorth i blant sy'n hyrwyddo cyfleoedd iddynt feithrin perthnasoedd iach a chadarnhaol. Fel arweinydd yn y gwasanaeth hwn, cewch gyfle unigryw i gael effaith fawr ar fywydau'r plant rydym yn eu cefnogi.

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) ac mae'n amodol ar Wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd boddhaol.

Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Gemma Evans ar 07837233885 / gdevans@sirgar.gov.uk

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: