MANYLION
  • Lleoliad: Carmarthenshire Secondary Teaching & Learning Centre (Carmarthen) - 1112, Carmarthen,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwydd Addysgu Lefel Uwch

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

32.50 awr yr wythnos - Amser Tymor yn unig.

Rydym yn ceisio cyflogi Cynorthwydd Addysgu Lefel Uwch yng Nghanolfan Addysgu a Dysgu Uwchradd Sir Gâr, er mwyn addysgu disgyblion oedran uwchradd sy'n dangos anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Bydd yr unigolyn yn darparu cymorth lles emosiynol wrth fynd i'r afael ag anghenion disgyblion sydd angen cymorth penodol i oresgyn rhwystrau rhag dysgu.

Fel Cynorthwydd Addysgu Lefel Uwch, bydd y swydd hefyd yn cynnwys goruchwylio disgybl 1:1 lle bo angen ochr yn ochr â grwpiau bach o ddisgyblion i ddarparu cymorth academaidd, ochr yn ochr â chymorth bugeiliol ac arwain rhaglenni lles i ddisgyblion sydd wedi'u gwahardd o amserlen ysgol brif ffrwd, neu nad ydynt fel arall yn dilyn yr amserlen honno.

Byddai gwybodaeth am Ymarfer ar Sail Trawma, neu feddu ar y Diploma ar Sail Trawma yn fanteisiol er y gellir darparu hyfforddiant wrth gael ei benodi.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru cyn cael ei benodi.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Elisabeth Griffiths ar 01267 231171.

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: