MANYLION
  • Lleoliad: Tremains Primary School,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Tremains

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Tremains
Disgrifiad swydd
28.5 awr yr wythnos – Tymor yr ysgol yn unig

Dros dro hyd at 31 Mawrth 2025

Rydym yn chwilio am Swyddog Cymorth Dysgu angerddol, ysbrydoledig, a chydwybodol i ymuno â'r tîm llawn cymhelliant yn Ysgol Gynradd Tremains. Mae'r Corff Llywodraethu yn chwilio am berson proffesiynol ac uchelgeisiol sy'n angerddol am drawsnewid dysgu ein disgyblion ar wahanol gamau datblygu.

Mae'r swydd hon yn gyfle gwych i chi ymuno â'n tîm ymroddedig i ddarparu cymorth academaidd a phersonol o ansawdd uchel i'n disgyblion. Mae angen rhywun arnom sy'n gallu galluogi dysgwyr i gyflawni eu gorau gyda'r gallu a'r sgiliau i ymgysylltu ac uniaethu â disgyblion oed cynradd a'u meithrin.  Byddai cefndir ym maes dysgu yn yr awyr agored a llesiant yn fanteisiol. 

Byddem yn disgwyl y byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos, neu'n gallu datblygu, y wybodaeth a'r sgiliau i gyflwyno ymyriadau sy'n briodol i blant sy'n gweithio y tu ôl i'r disgwyliadau yn yr ystod oedran hwn.  Byddai gwybodaeth a dealltwriaeth o Thrive ac ELSA yn fantais.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 21 Chwefror 2024

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 26 Chwefror 2024

Dyddiad y Cyfweliad: 01 Mawrth 2024