MANYLION
  • Lleoliad: Cefn Glas Infants,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth Cefn Glas

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Pennaeth Cefn Glas
Disgrifiad swydd
32.5

Mae Ysgol Fabanod Cefn Glas ar ystad Cefn Glas i'r gogledd o dref Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion rhwng tair a saith oed mewn saith dosbarth gan gynnwys meithrinfa. Mae 199 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae 54 ohonynt yn mynychu'r feithrinfa'n amser llawn.

 

Mae ein Gwerthoedd Craidd yn crynhoi popeth a wnawn ac maent yn rhoi gweledigaeth glir i'n hysgol a'r ffordd rydym yn mynd ati i wneud ein gwaith bob dydd.

 

Dathlu       Mae Pawb yn Cyfrif                          Meddwl Blaengar         Meithrin

Tyfu Gyda'n Gilydd       Dysgu am Oes              Uchelgeisiol               Llwyddiant

 

Rydym yn chwilio am Bennaeth arloesol, angerddol ac ysbrydoledig sydd â gweledigaeth glir i barhau â'r ymgyrch am safonau uchel a chynnal ein gwerthoedd craidd.  Bydd gan yr ymgeisydd y sgiliau proffesiynol angenrheidiol i adeiladu ar y sylfeini cadarnhaol iawn a'r perthnasoedd rhagorol sydd eisoes yn eu lle gyda theuluoedd a'r gymuned ehangach.

 

Bydd y Pennaeth yn darparu arweinyddiaeth i'r ysgol i gynnal ei llwyddiant, i sicrhau addysg o safon uchel i bob disgybl a pharhau i godi safonau cyflawniad.

 

A chithau'n Bennaeth, Dirprwy Bennaeth neu Arweinydd Ysgol profiadol, bydd gennych brofiad rheoli gyda sgiliau arweinyddiaeth, sefydliadol a rhyngbersonol amlwg. Byddwch yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned leol i ddarparu amgylchedd lle mae'r staff a'r disgyblion yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn a chynnal eu llesiant.

 

Yn gyfnewid, gallwn gynnig tîm cefnogol, proffesiynol a gofalgar o staff a llywodraethwyr i chi, plant hapus sy'n ymgysylltu ac yn mwynhau dysgu, cymuned ysgol gefnogol ac amgylchedd gofalgar, meithringar.

 

Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu penodiad cyntaf yn Bennaeth feddu ar y CPCP.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor

 

Criminal records check by the Disclosure & Barring Service (DBS) is a requirement for this post.

Dyddiad Cau: 29 Chwefror 2024

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 04 Mawrth 2024   

Dyddiad y Cyfweliad: 11 a 12 Mawrth 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person