MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Testun:
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Peirianneg Amaethyddol CC/2544

Darlithydd Peirianneg Amaethyddol CC/2544

Coleg Cambria
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Peirianneg Amaethyddol

Lleoliad: Llysfasi

Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser

Cyflog: £30,620 - £47,331 (Mae pwyntiau ystod gyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Raddfa Dâl Uwch)

Mae gennym gyfle cyffrous i Ddarlithydd mewn Peirianneg ar ein safle yn Llysfasi. Mae'r safle wrthi'n cael gweddnewidiad anhygoel gyda buddsoddiad o £10m i fod yn ganolfan cynaliadwyedd amaethyddol. Mae'r cyllid yn cael ei ddefnyddio i adeiladu cyfadeilad o'r radd flaenaf i arwain ac addysgu'r sector ffermio tuag at arferion amaethyddol arloesol gan dyfu'r adran a'r coleg ar yr un pryd.

Mae'r swydd hon yn ymwneud yn bennaf ag addysgu dysgwyr Lefel 2 a Lefel 3 gan ddarparu'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnyn nhw ym maes Peirianneg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu addysg gynhwysfawr sy'n ennyn diddordeb myfyrwyr. Bydd hyn yn cynnwys paratoi deunyddiau, marcio gwaith myfyrwyr a chynnal arholiadau gan sicrhau bod ein myfyrwyr wedi'u paratoi'n dda ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Yn ogystal â bod yn fedrus wrth addysgu lefel 2 a lefel 3 bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o addysgu cyrsiau lefel uwch hyd at HND, er nad yw hyn yn hanfodol. Mae'r ystod hon o brofiad addysgu yn sicrhau y gall ein hadran gynnig profiad addysgol gynhwysfawr, gan arwain myfyrwyr o'u camau cychwynnol mewn Peirianneg i ddysgu mwy datblygedig, arbenigol.

Yn ogystal â chyfrifoldebau addysgu bydd gofyn i chi ymgysylltu â myfyrwyr, cynnig arweiniad addysgiadol a chefnogaeth. Bydd y darlithydd yn gweithredu fel tiwtor cwrs pan fo angen gan arwain myfyrwyr trwy eu datblygiad academaidd a phroffesiynol. Mae cydweithio yn rhan hanfodol o'r swydd hon a bydd disgwyl i'r darlithydd weithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws adrannau amrywiol er mwyn rhannu adnoddau, datblygu'r cwricwlwm a chynnal y safonau uchaf mewn addysg. Bydd ymgysylltu â phartneriaid diwydiant hefyd yn agwedd hanfodol o'r swydd gan sicrhau bod ein cwricwlwm yn berthnasol ac yn gysylltiedig ag anghenion diwydiant.

Mae prosesau gweinyddol yn rhan sylfaenol o'r swydd hon. Bydd y darlithydd yn gyfrifol am gynnal cofnodion cynhwysfawr a chywir fel cofrestri, cynlluniau gwaith a dogfennaeth adolygu cwrs. Mae ymrwymiad i sicrhau ansawdd a gwelliant parhaus yn hollbwysig gan y bydd y darlithydd yn chwarae rhan yn weithdrefnau hunanasesu'r sefydliad, gweithgarwch dilysu allanol a mewnol, ac arsylwadau addysgu.

Gofynion Hanfodol
  • Gradd mewn maes perthnasol a/neu brofiad diwydiant
  • Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407) neu'n barod i weithio tuag at hynny
  • Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a sut y byddwch yn sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn
  • Gwybodaeth am yr eang o anghenion dysgu a sut i ddiwallu'r anghenion hyn mewn amgylchedd dysgu

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig