MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Technegydd Gwaith Saer (Amlsgiliau)

Coleg Sir Gar
Technegydd Gwaith Saer (Amlsgiliau)
Application Deadline: 19 February 2024

Department: Ystadau

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Graig

Reporting To: Rheolwr Gweithrediadau Eiddo

Compensation: £27,186 - £32,538 / blwyddyn
DescriptionMae'r Adran Ystadau yn gyfrifol am waith cynnal a chadw adweithiol ac wedi'i gynllunio ar adeiladau'r Coleg, prosiectau cyfalaf mawr, gwaith mân, cydymffurfio â deddfwriaeth, rheolaeth amgylcheddol, data ystadau, Arlwyo, Swyddfeydd Campws, Cludiant a chynnal a chadw tiroedd. Mae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i unigolyn rhagweithiol a dyfeisgar yn Adran Ystadau Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.

Mae'r Technegydd Gwaith Saer (Amlsgiliau) yn chwarae rhan ganolog yn nhîm Ystadau'r coleg. Mae'r swydd hon yn cynnwys goruchwylio a chyflawni ystod eang o dasgau gwaith coed medrus, gweithgareddau cynnal a chadw, ac atgyweiriadau technegol sy'n hanfodol ar gyfer cynnal a chadw cyfleusterau'r coleg ar draws pob un o'r 7 safle. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar set o sgiliau amrywiol sy'n cwmpasu arbenigedd mewn gwaith saer ynghyd â hyfedredd mewn crefftau amrywiol eraill gan gynnwys plastro, peintio, gwaith brics a sgiliau toi. Bydd deilydd y swydd hefyd yn cynorthwyo'r Rheolwyr gweithredol/technegwyr gyda chydlynu a goruchwylio contractwyr allanol gan gynnwys Sesiynau cynefio/cydymffurfio ag Iechyd a Diogelwch, goruchwylio gwaith, cydlynu unrhyw newidiadau yn ystod y cam adeiladu, Archwilio gwaith contractwyr ar y cam cwblhau ac adrodd am faterion perthnasol. Mae'r swydd hon yn hanfodol i sicrhau bod eiddo'r coleg yn parhau i fod yn ddiogel, yn cael ei gynnal a'i gadw'n dda, ac yn ffafriol i anghenion addysgol a gweinyddol y sefydliad.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Ymgymryd â cheisiadau am waith cynnal a chadw ar gyfer atgyweiriadau o ddydd i ddydd, gwaith mân a gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio. Bydd hyn yn cynnwys bod yn gyfrifol am ganfod namau ac atgyweirio ystod eang o elfennau adeiladau ac ymgymryd ag elfennau o waith amlsgiliau gan gynnwys Drysau tân, Cloeon a diogelwch, Atgyweirio toeau a Gollyngiadau cysylltiedig, Mân ddatblygiadau, Gosod/atgyweirio ffenestri ac unrhyw sgiliau adeiladu a gweithgareddau cynnal a chadw cysylltiedig eraill. Marcio allan yn gywir ac adeiladu o luniadau a chynlluniau.
  • Meddu ar wybodaeth dda am reoliadau adeiladu cyfredol.
  • Deall a derbyn cyfarwyddiadau technegol gan reolwyr gweithredol a thechnegwyr yr Adran Ystadau.
  • Cysylltu a chydweithredu â rheolwyr gweithredol a thechnegwyr yr Adran Ystadau yn ddyddiol.
  • Cyfathrebu'n effeithiol â staff Ystadau a staff eraill y coleg er mwyn mynd i'r afael â phryderon neu ymholiadau sy'n ymwneud â chynnal a chadw.
  • Cynorthwyo gyda chydlynu contractwyr/cyflenwyr allanol i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn gywir.
  • Cynorthwyo gyda monitro contractwyr a chynnal arolygiadau ar ôl gwneud y gwaith gan gynnwys paratoi adroddiadau diffygion lle bo angen.
  • Archwilio a gwneud arolwg o waith ar safle yn ôl y gofyn, cynhyrchu ceisiadau am ddeunyddiau a chyfarpar i gynorthwyo gyda chynllunio cwmpas y gwaith i'w wneud.
  • Sicrhau safonau cynhyrchu derbyniol, cwblhau tasgau o fewn y raddfa amser ofynnol a sicrhau lefelau crefftwaith uchel.
  • Cynorthwyo gyda gwaith gweinyddu cynnal a chadw cyffredinol yr adran ystadau.
  • Sicrhau bod yr holl ddyletswyddau'n cael eu cyflawni yn unol â'r Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gyfredol
  • Ymweld â holl gampysau'r coleg pan fo angen, er mwyn sicrhau bod y swydd yn cael ei chyflawni'n effeithiol.
  • Cynnal cofnodion cynnal a chadw cywir drwy ddefnyddio system ystadau o reoli cyfleusterau gyda chymorth cyfrifiadur a defnyddio Microsoft neu feddalwedd gweinyddu tebyg
  • Paratoi adroddiadau'n manylu ar gynnydd gwaith, tasgau a gwblhawyd, a phrosiectau sydd ar ddod yn ôl yr angen.
  • Gweithio o bryd i'w gilydd y tu allan i oriau gwaith arferol i ymdrin ag argyfyngau
  • Mynychu hyfforddiant er mwyn ymgymryd â gweithgareddau gwaith yn effeithiol

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Crefft Uwch Lefel 3 City & Guilds mewn Gwaith Saer ac Asiedydd neu NVQ L3 mewn Gwaith Saer ar Safle neu gyfwerth
  • Profiad o fewn y diwydiant adeiladu a/neu amgylchedd ystadau
  • Profiad (ôl-brentisiaeth) o amrywiaeth eang o weithgareddau Gwaith Saer a chynnal a chadw cyffredinol
  • Profiad o weithio gyda chontractwyr ac asiantaethau allanol
  • Gallu defnyddio ystod o systemau TG gyda phrofiad o daenlenni a chronfeydd data.
  • Profiad o faterion yn ymwneud ag Iechyd a Diogelwch
  • Profiad perthnasol o ddyletswyddau gweinyddol
Dymunol:
  • HNC mewn Astudiaethau Adeiladu
    neu Rheolaeth Ystadau/Cyfleusterau
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein