MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil,
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/ Athrawes, Pantysgallog Primary School

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
YSGOL GYNRADD PANTYSGALLOG
SWYDD DYSGU

I ddechrau yn Nhymor yr Hydref 2024 (yn ddibynnol ar wiriadau diogelu.)

Mae Llywodraethwyr yr ysgol hapus, lwyddiannus hon am apwyntio dau athro uchelgeisiol, brwdfrydig a dyfeisgar sydd yn meddu ar sgiliau gwych yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol gwych.

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn:

Angerddol ynghylch addysg ac yn ymroddedig i arwain maes o'r cwricwlwm er mwyn galluogi pob un plentyn i lwyddo yn eu dysgu.
Meddu ar wybodaeth weithiol wych o'r Cwricwlwm Cynradd a deall “Cwricwlwm Cymru - cwricwlwm ar gyfer bywyd.”
Bod yn ymarferwr dosbarth gwych sydd yn ysbrydoli ac annog plant i gyflawni eu potensial drwy brofiadau dysgu o safon uchel.
Meddu ar allu i annog, herio a chefnogi eraill.
Arddangos sgiliau cyfathrebu gwych er mwyn gweithio'n effeithiol, mewn partneriaeth â staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned leol.
Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth wych o ddatblygu sgiliau ac addysgeg.
Meddu ar allu i ddefnyddio TGaCh yn effeithiol er mwyn darparu dysgu ac addysgu o safon uchel.
Meddu ar allu i ddatblygu dwyieithrwydd (y Gymraeg fel ail iaith.)
Meddu ar brofiad o strategaethau asesu dysgu.
Gallu cyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yr ysgol.
Meddu ar ddisgwyliadau uchel o gyflawniad ac ymroddiad i godi safonau.

Bod yn hyblyg a dyfeisgar.
Yn Ysgol Gynradd Pantysgallog rydym yn ymroddedig i ddatblygiad proffesiynol o'r safon uchaf a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar a brwdfrydig a fydd yn herio'r meddwl. Rydym yn gymuned hapus a chyfeillgar o staff, rhieni, llywodraethwyr a disgyblion sydd yn gweithio'n galed ac sydd yn teimlo'n frwdfrydig ynghylch sicrhau profiad addysgol o safon uchel.

Dyddiad cau ar gyfer y cais: Dydd Gwener 1 Mawrth 2024
Llunio'r rhestr fer: yr wythnos yn dechrau Dydd Llun 4 Mawrth 2024

Bydd arsylwadau gwersi'n cael eu cynnal: Dydd Llun 11 Mawrth 2024

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal: Dydd Gwener 15 Mawrth 2024

Gofynnir i ymgeiswyr a fydd yn cyrraedd y rhestr fer i wneud apwyntiad â'r Pennaeth er mwyn ymweld â'r ysgol a darparu gwers ar gyfer un o'n dosbarthiadau.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Darren Thomas ar 01685 351813 neu e-bostiwch Darren.Thomas@merthyr.gov.uk
Bydd gogyn i chi ddangos tystiolaeth o bob cymhwyster a ddynodwyd i fod yn angenrheidiol.

Gellir cwblhau ffurflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.uk

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffuflenni cais drwy ffonio 01685 725000 a'u dychwelyd, ddim hwyrach na Dydd Gwener 1 Mawrth 2024 i Adran Weinyddol yr Adran AD, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad y Gymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn y Saesneg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn y Saesneg.
Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk os hoffech i'ch cyfweliad gael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill.