MANYLION
  • Lleoliad: 5 Spilman Street, Carmarthen,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Rheolwr Gofal Preswyl

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn trawsnewid ein gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad mawr mewn cartrefi plant newydd. Ein nod yw cefnogi ac i feithrin plant i aros yn eu cymunedau ac i ffynnu.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i arwain tîm a chwarae rhan hanfodol wrth reoli un o'n cartrefi newydd. Rydym yn chwilio am unigolyn ysbrydoledig sy'n gallu darparu arweinyddiaeth mewn cartref therapiwtig, sy'n seiliedig ar drawma ac ymlyniad, sydd newydd ei ddatblygu ar gyfer plant 11-17 oed.

Byddwch yn gyfrifol am reoli a darparu model gofal therapiwtig, gan sicrhau bod y cartref yn cael ei gefnogi gan staff profiadol a medrus iawn sy'n gwrando ar blant, gan ofalu amdanynt.

Rydym yn cynnig cyfleoedd sefydlu rhagorol a hyfforddiant parhaus, gan gynnwys eich cefnogi i ennill cymwysterau pellach. Byddwch yn rhan o wasanaeth preswyl sefydledig ac adran sy'n cynnig goruchwyliaeth a chyfleoedd rheolaidd ar gyfer datblygu pellach.

Ein hethos yw darparu meithrin, anogaeth, gofal a chymorth i blant sy'n hyrwyddo cyfleoedd iddynt feithrin perthnasoedd iach a chadarnhaol. Fel arweinydd yn y gwasanaeth hwn, cewch gyfle unigryw i gael effaith fawr ar fywydau'r plant rydym yn eu cefnogi.

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) ac mae'n amodol ar Wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd boddhaol.

Cynhelir cyfweliadau ar 7 Mawrth 2024

Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Gemma Evans ar 07837233885 / gdevans@sirgar.gov.uk

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: