MANYLION
  • Lleoliad: Rhos-on-Sea,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Chwefror, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Technegydd - Canolfan Chwaraeon (Cyflenwi Cyfnod Mamolaeth Penodol)

Grwp Llandrillo Menai
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

Archebu, derbyn, storio, monitro a chydlynu'r holl stoc a sicrhau bod y lefelau stoc yn cael eu cynnal o fewn y gyllideb ar gyfer yr holl weithdai sy'n gysylltiedig â'r swydd hon.

Sicrhau bod archebion yn gywir ac yn cwrdd â safonau ansawdd yr adran.

Gweithio gyda staff perthnasol, cynorthwyo a chynghori dysgwyr i ddewis cydrannau ac eitemau addas wrth iddynt baratoi ar gyfer asesiadau, prosiectau a chystadlaethau yn ôl y gofyn.

Ynysu neu roi offer diffygiol/wedi difrodi mewn cwarantin ac atgyweirio neu drefnu gwasanaeth allanol i atgyweirio'r offer.

Gwirio gweithrediad a diogelwch offer cyn ei gomisiynu. Comisiynu'r offer a rhoi gwybod i staff a dysgwyr bod yr offer ar gael i'w ddefnyddio ac yn cwrdd â'r safonau rheoleiddio gofynnol.

Paratoi defnyddiau, offer ac adnoddau ar gyfer defnydd y dysgwyr pan ofynnir amdanynt gan Ddarlithwyr, Goruchwylwyr Sgiliau Ymarferol neu Hyfforddwyr/Aseswyr.

Gweithio'n agos gyda chyflogwyr i ddatblygu rigiau hyfforddi penodol ar gyfer y diwydiant yn ôl y gofyn.

Gweithio gyda Rheolwr y Rhaglen a staff perthnasol i weithredu unrhyw newidiadau i drefn y gweithdy, cyfleusterau ac offer.

Cynorthwyo Darlithwyr, Goruchwylwyr Sgiliau Ymarferol neu Hyfforddwyr/Aseswyr wrth baratoi rigiau dysgu.

Sicrhau o ddydd i ddydd bod y gweithdai, yr offer, y teclynnau a'r defnyddiau, gan gynnwys y dull o'u storio a'u pentyrru, yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a sicrhau bod Asesiad Risg yn digwydd yn rheolaidd.

Cysylltu â'r staff perthnasol e.e. y Swyddog Iechyd a Diogelwch ynglŷn â chofnodi ac adrodd am ddigwyddiadau yn y gweithdy ac i gael cyngor am arfer da ym maes Iechyd a Diogelwch.

Cynorthwyo Darlithwyr, Goruchwylwyr Sgiliau Ymarferol neu Hyfforddwyr/Aseswyr i gydymffurfio â gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch a'u datblygu.

Cymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch pob maes sy'n gysylltiedig â'r rôl hon yn eitem 1.

Paratoi defnyddiau i fyfyrwyr eu defnyddio wrth gael eu hyfforddi a'u hasesu a chynorthwyo Darlithwyr, Goruchwylwyr Sgiliau Ymarferol, Hyfforddwyr/Aseswyr a dysgwyr gyda gweithgareddau ymarferol.

Paratoi ardaloedd asesu ac offer ar gyfer asesiadau myfyrwyr yn ôl yr angen.

Datgysylltu ymarferion ymarferol ac arbed defnyddiau i'w hailddefnyddio.

Gwasanaethu a gwneud gwaith cynnal a chadw ar yr holl beiriannau pŵer symudol a statig gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n effeithiol bob amser gan nodi unrhyw ddiffygion i'r Darlithwyr, Goruchwylwyr Sgiliau Ymarferol neu Hyfforddwyr/Aseswyr.

Gwasanaethu a chynnal a chadw'r holl offer a theclynnau i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n effeithiol bob amser.

Cadw cofnodion stoc cyfredol o offer a chyfarpar a nwyddau traul ac archebu rhai newydd yn ôl gofyn Darlithwyr, Goruchwylwyr Sgiliau Ymarferol neu Hyfforddwyr/Aseswyr.

Cynnal a chadw cofnodion a gwaith monitro ymarferion yn y gweithdy e.e. Iechyd a Diogelwch, yn cynnwys asesiadau risg a digwyddiadau.

Dilyn arferion cynnal a chadw da o fewn meysydd cyfrifoldeb; h.y. ardaloedd gwaith, ardaloedd agored, stordai, ayb, sicrhau amgylchedd glân a diogel ar gyfer yr holl fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr o fewn eich cyfrifoldeb.

Gweithio gydag aelodau eraill o staff i sicrhau disgyblaeth.

Cymryd rhan mewn cyfarfodydd, datblygiad staff a digwyddiadau eraill fel y bo'r galw gan y Rheolwr Maes Rhaglen.

Goruchwylio amserlen ddyddiol technegwyr ar brentisiaeth a'u cynorthwyo i gyflawni cymwyseddau angenrheidiol.

Cysylltu â Rheolwr y Rhaglen yn gyson ynglŷn ag arferion defnyddio a monitro offer a chyfarpar yn y gweithdai.

Cynnal asesiad risg gweithdy ar unrhyw ddarn newydd o offer neu newid yn arferion a defnydd y gweithdy.

Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill o fewn rheswm ar gais Rheolwr y Maes Rhaglen.

Dylid nodi bod y Swydd Ddisgrifiad hwn yn cynnwys crynodeb o brif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd a bydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd. Gall hyn arwain at newidiadau yn sgil gofynion gweithredol y Grŵp.


Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/183/24

Cyflog
£11,389 - £11,639 y flwyddyn

Lleoliad Gwaith
  • Llandrillo-yn-Rhos

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.

Patrwm gweithio
Dros Dro Rhan-amser (18 awr yr wythnos)

Dydd Llun, 2.30 pm - 9.45 pm

Dydd Mawrth, 4.45 pm - 9.45 pm

Dydd Gwener, 3.30 pm - 9.15 pm

Cyflenwi Cyfnod Mamolaeth Penodol

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
15 Chwef 2024
12:00 YH(Ganol dydd)