MANYLION
  • Lleoliad: St Mary’s Roman Catholic Primary School,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth - Ysgol Gynradd y Santes Fair

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Pennaeth - Ysgol Gynradd y Santes Fair
Disgrifiad swydd
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn ceisio penodi Pennaeth cryf, dynamig ac ysbrydoledig i hyrwyddo llwyddiannau'r ysgol groesawgar a gofalgar hon sydd ag ethos Catholig cryf.

 

Mae ysgol y Santes Fair yn darparu dysgu cyffrous ac ystyrlon i 259 o ddisgyblion 3-11 oed. Mae'r ysgol yn cael budd o amgylchedd dysgu awyr agored rhagorol a chysylltiau cryf iawn â'r plwyf lleol. Mae'n fan lle mae plant yn datblygu'r corff, y meddwl a'r enaid. Drwy'r ysgol gyfan, mae staff addysgu profiadol a chefnogol yn darparu profiadau dysgu cyffrous ac ystyrlon ac mae ganddynt y disgwyliadau uchaf o'u hunain a phob plentyn o'r Feithrinfa i Flwyddyn 6.

 

Rydym yn ceisio penodi unigolyn a fydd yn sicrhau bod yr oll ddisgyblion a staff yn gallu cyflawni eu potensial o fewn cymuned Gatholig ofalgar a chefnogol.

 

Unigolyn sy'n Gatholig ymroddedig mewn gair a gweithred, gyda gweledigaeth benodol o addysg Gatholig yng Nghymru yn yr 21ain Ganrif, a fydd yn coleddu ac yn cefnogi ethos Catholig ein hysgol.

Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i arwain, cymell ac ysbrydoli pob un o'n plant a'n cydweithwyr.

Bydd yn parhau i godi dyheadau, safonau, a chyflawniadau ar gyfer pob un o'n plant.

Yn meddu ar sgiliau arweinyddiaeth amlwg ac sy'n feddyliwr strategol, gyda gweledigaeth i gyflwyno syniadau newydd ynghyd â'r gallu i nodi a chynnal gwelliant hirdymor drwy gefnogi, ysbrydoli a herio staff.  

Yn ymrwymedig i ddatblygiad pellach y bartneriaeth gyda'r plwyf, rhieni, a'r gymuned ehangach drwy gymryd rhan weithredol ym mywyd a chenhadaeth yr ysgol.

Ymarferydd rhagorol yn y dosbarth cynradd.

Meddyliwr strategol sy'n gallu datblygu a mynegi gweledigaeth arloesol, strategol ar gyfer effeithiolrwydd yr ysgol, cynhwysiant a llesiant gan gofio effaith y rhain ar ddeilliannau disgyblion.

Yn gyfnewid, rydym yn cynnig:

Plant dawnus, ysgogol, cadarnhaol a brwdfrydig sy'n awyddus i ddysgu.

Staff addysgu a chymorth ymroddedig proffesiynol sy'n barod i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus.

Corff Llywodraethu cefnogol sy'n meddu ar weledigaeth glir ar gyfer dyfodol yr ysgol

Perthnasoedd gwaith agos gyda rhieni, y plwyf ac ysgolion partner

Cyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

 

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

 

Dyddiad Dechrau: Medi 2024

Ffurflen Gais: Cwblhewch a chyflwyno'r Ffurflen Gais Uwch Arweinyddiaeth y gellir dod o hyd iddi ar wefan CES: Ffurflenni Cais Enghreifftiol (catholiceducation.org.uk)
Dyddiad Cau: Ganol dydd, 28 Chwefror 2024.  Cyflwynwch geisiadau i Gadeirydd y Corff Llywodraethu (Dr David Bolton) drwy anfon neges e-bost iadmin@stmaryscps.bridgend.cymru
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 4 Mawrth 2024
Dyddiadau'r Cyfweliad: 19 a 20 Mawrth 2024

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r ysgol drwy ffonio 01656 815560 neu anfon neges e-bost i admin@stmaryscps.bridgend.cyrmu

Rydym yn annog ymweliad â'r ysgol; gellir trefnu hyn drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan hefyd: www.stmaryscatholicprimary.co.uk

 

Manteision gweithio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person