MANYLION
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Tiwtoriaid Rhifedd

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Tiwtoriaid Rhifedd

Graddfa Gyflog £29.16 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)

Yn ogystal â phecyn buddion a gwyliau hael

Mae gan Addysg Oedolion Cymru gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid cymwysedig a medrus i gyflwyno cyrsiau Rhifedd i ddysgwyr ledled sir Gaerfyrddin, drwy'r prosiect Multiply . Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr ac Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru, i gefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.

Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio'n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):

- Cynllunio a pharatoi cyrsiau - paratoi cynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith. Dewis deunyddiau dysgu ac ystod o ddulliau dysgu i ddiwallu anghenion y dysgwr.

- Cefnogi dysgwyr - Asesu profiadau dysgu blaenorol a chyflawniadau dysgwyr, rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddynt, a sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o'u llwybrau dilyniant.

- Cyffredinol - ymgymryd â thasgau gweinyddol yn unol â rheoliadau ar gyfer cyllido Addysg Oedolion Cymru. Mynychu cyfarfodydd tiwtor perthnasol, briffiau ansawdd a chyfarfodydd achredu / safoni perthnasol.

Byddwch yn ymwybodol os gwelwch yn dda, y bydd gofyn i ddeiliad y swydd deithio a darparu sesiynau ym mhob rhan o Sir Gaerfyrddin, mewn ardaloedd gwledig a threfol.

Mae Multiply yn brosiect a ariennir gan y llywodraeth i roi cymorth i oedolion wella eu sgiliau rhifedd, gan ddarparu cyrsiau am ddim i oedolion heb radd C TGAU mewn Mathemateg neu gyfwerth. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy Multiply in Scotland, Wales and Northern Ireland - GOV.UK (www.gov.uk)

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Os hoffech sgwrs anffurfiol neu i gael mwy o wybodaeth am y rôl, cysylltwch gyda Beth John, Rheolwr Rhanbarthol De Orllewin a Chanolbarth, ar Beth.John@adultlearning.wales

Ymgeisiwch erbyn 9.00yb Dydd Mercher 14 eg Chwefror 2024 gan ddefnyddio'r ffurflen gais nodwch nad ydym yn derbyn CV . Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â'r profiad a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni'r rôl hon.