Rwyt ti eisoes yn ei wneud bob dydd. Drwy ddod yn athro cymwys, cei dy dalu i wneud gwahaniaeth.
Mae ysgolion angen mwy o athrawon sy'n gallu siarad Cymraeg – ym mhob pwnc.
Mae angen dy sgiliau a dy brofiad o’r ystafell ddosbarth. Mae Cymru angen mwy o athrawon uwchradd, yn enwedig mewn pynciau â blaenoriaeth:
- Bioleg
- Cemeg
- Dylunio a Thechnoleg
- Technoleg Gwybodaeth
- Mathemateg
- Ieithoedd Tramor Modern
- Ffiseg
- Cymraeg
PAM ADDYSGU YNG NGHYMRU?
Cer ymhellach drwy addysgu. Datblyga dy yrfa drwy hyfforddiant. Mae cefnogaeth ar gael pob cam o’r ffordd i dy helpu ar hyd y siwrnai.
Drwy addysgu yng Nghymru yn y Gymraeg, gelli di rannu dy angerdd dros y Gymraeg gyda’r genhedlaeth nesaf. Addysga yn yr iaith ti’n ei charu.
Eisiau gyrfa sicr? Dechreua fel Athro Newydd Gymhwyso yng Nghymru ar £32,400 y flwyddyn. Cer ymlaen i weithio fel Pennaeth ac ennill hyd at £140,600 y flwyddyn
SUT I DDOD YN ATHRO
Gweithio o fewn addysg yw'r cam cyntaf. Cymer y cam nesaf drwy ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC)!
Gallet ti astudio Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn nifer o brifysgolion ledled Cymru, gyda rhaglenni AGA llawn-amser ar gael drwy:
- Prifysgol Bangor
- Partneriaeth Caerdydd
- Prifysgol Abertawe
- Prifysgol De Cymru (PDC) - cynradd yn unig
- Yr Athrofa (Prifysgol Y Drindod Dewi Sant: Caerdydd, Caernarfon ac Abertawe)
Angen mwy o hyblygrwydd? Gelli barhau i ennill cyflog wrth hyfforddi i fod yn athro. Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig TAR rhan-amser, a TAR Cyflogedig ble y gelli hyfforddi tra’n gweithio mewn ysgol.
Mae cyfle i ti hefyd astudio a phrofi lleoliad gwaith yn y Gymraeg mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.
CYMORTH ARIANNOL
Eisiau addysgu yn y Gymraeg? Gallet fod yn gymwys i dderbyn cymelliadau ariannol i dy gefnogi wrth hyfforddi:
- £5,000 i astudio i addysgu uwchradd yn y Gymraeg, HEFYD gallai dy brifysgol gynnig eu cefnogaeth eu hunain i addysgu yn y Gymraeg.
- Os wyt ti’n cwblhau tair blynedd o addysgu uwchradd yn y Gymraeg, gallet dderbyn bwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg o £5,000.
A mwy:
- £15,000 i astudio i addysgu Pwnc â Blaenoriaeth uwchradd.
- £5,000 i athrawon dan hyfforddiant o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Mae gwybodaeth am gyllid ar gyfer rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) i'w gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
CYMWYSTERAU SYDD EU HANGEN
- C mewn TGAU Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg, neu radd sy’n gyfwerth.
- C mewn TGAU Gwyddoniaeth ar gyfer athrawon cynradd hefyd.
- A gradd addas o brifysgol i wneud cais am raglen TAR.
Gall dy brifysgol gynnig arweiniad ynghylch graddau perthnasol a chymhwysedd AGA penodol.
Wyt ti eisiau addysgu yn y Gymraeg ond yn poeni am safon dy iaith? Mae cymorth ar gael i ti:
- Gall Addysgwyr Cymru neu’r AGA ti’n ei ddewis helpu gyda’r sgiliau Cymraeg rwyt ti eu hangen i addysgu yn y Gymraeg.
- Addysga wrth ddysgu Cymraeg drwy’r
- Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg ar gyfer ymarferwyr addysg.
- Cofrestra ar gyfer Cyrsiau Dysgu Cymraeg am ddim i Weithwyr Addysg
- Mae consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn darparu ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol i ddatblygu dy sgiliau Cymraeg.
PAM DEWIS CYMRU?
Der â dy angerdd i'r ystafell ddosbarth o dan Cwricwlwm i Gymru.
Mae yna hefyd ddigonedd o gefnogaeth ar gyfer dysgu proffesiynol drwy gydol dy yrfa.
CAMAU NESAF
Cysyllta am fwy o wybodaeth ac i drafod dy opsiynau.
Digwyddiadau - Ymuna â ni mewn digwyddiad - mewn diwrnod agored prifysgol, gallwn dy helpu gyda dy gais ac i baratoi ar gyfer cyfweliad.
Dilyna Addysgu Cymru - ein hymgyrch ar gyfer athrawon uchelgeisiol yng Nghymru.
Gwna gais am brofiad gwaith mewn ysgol leol i gael blas ar sut beth yw sefyll o flaen dosbarth.
PWY YDYN NI?
Gall Addysgwyr Cymru dy helpu, dim ots ar ba ran o dy siwrnai wyt ti - o ymgeiswyr dan hyfforddiant i athrawon cymwysedig sy'n chwilio am swyddi gwag. Gallwn dy helpu i ddarganfod dy swydd ddelfrydol ar ein tudalen swyddi.
Cysyllta gyda un o'r tîm heddiw!
Ffonia 02920 460099
Ebostia: gwybodaeth@addysgwyr.cymru
Mae gan Addysgwyr Cymru bopeth rwyt ti ei angen i archwilio llwybrau a chyfleoedd gyrfa o fewn addysg. Cymer olwg.