Mae ysgolion uwchradd yng Nghymru yn chwilio am fyfyrwyr uchelgeisiol, chwilfrydig fel ti i arwain y genhedlaeth nesaf ac addysgu yn y Gymraeg.
Mae angen mwy o athrawon sy'n gallu siarad Cymraeg – ym mhob pwnc.
Bydd yn arbenigwr yn dy bwnc. Mae Cymru angen mwy o athrawon uwchradd, yn enwedig mewn pynciau â blaenoriaeth:
- Bioleg
- Cemeg
- Dylunio a Thechnoleg
- Technoleg Gwybodaeth
- Mathemateg
- Ieithoedd Tramor Modern
- Ffiseg
- Cymraeg
PAM ADDYSGU YNG NGHYMRU?
Caru’r Gymraeg?
Addysga yn yr iaith ti'n ei charu. Bydd yr athro yr oeddet ti yn ei edmygu. Bydd yn fodel rôl i'r genhedlaeth nesaf.
Mae addysgu yn agor drysau. O addysgu i ysbrydoli, gelli ddatblygu dy yrfa y tu mewn i'r dosbarth a thu hwnt.
Addysgu yn y Gymraeg: gyrfa ar gyfer y dyfodol. Dechreua dy yrfa addysgu ar £32,400 y flwyddyn a gweithia tuag at fod yn Bennaeth ac ennill hyd at £140,600.
SUT I DDOD YN ATHRO
Wedi graddio? Cer am Statws Athro Cymwysedig (SAC)!
Gallet ti astudio Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn nifer o brifysgolion ledled Cymru, gyda rhaglenni cynllun AGA llawn-amser ar gael:
- Prifysgol Bangor
- Partneriaeth Caerdydd
- Prifysgol Abertawe
- Prifysgol De Cymru (PDC) - cynradd yn unig
- Yr Athrofa (Prifysgol Y Drindod Dewi Sant: Caerdydd, Caernarfon ac Abertawe)
Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig TAR rhan-amser, a TAR Cyflogedig ble y gelli hyfforddi tra’n gweithio mewn ysgol.
Mae cyfle i ti hefyd astudio a phrofi lleoliad gwaith yn y Gymraeg mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.
CYMORTH ARIANNOL
Eisiau addysgu yn y Gymraeg? Gallet fod yn gymwys i dderbyn cymelliadau ariannol i dy gefnogi wrth hyfforddi:
- £5,000 i astudio i addysgu uwchradd yn y Gymraeg, HEFYD gallai dy brifysgol gynnig eu cefnogaeth eu hunain i addysgu yn y Gymraeg.
- Os wyt ti’n cwblhau tair blynedd o addysgu uwchradd yn y Gymraeg, gallet dderbyn bwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg o £5,000.
A mwy:
- £15,000 i astudio i addysgu Pwnc â Blaenoriaeth uwchradd.
- £5,000 i athrawon dan hyfforddiant o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Mae gwybodaeth am gyllid ar gyfer rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) i'w gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
CYMWYSTERAU SYDD EU HANGEN
- C mewn TGAU Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg, neu radd sy’n gyfwerth.
- C mewn TGAU Gwyddoniaeth ar gyfer athrawon cynradd hefyd.
- A gradd addas o brifysgol i wneud cais am raglen TAR.
Gall dy brifysgol gynnig arweiniad ynghylch y defnydd o’r iaith Gymraeg, graddau perthnasol a chymhwysedd AGA penodol.
- Wyt ti eisiau addysgu yn y Gymraeg ond yn poeni am safon dy iaith? Mae cymorth ar gael i ti: Gall Addysgwyr Cymru neu dy brifysgol dy helpu gyda’r sgiliau Cymraeg rwyt ti eu hangen i addysgu yn y Gymraeg.
- Mae consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn darparu ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol i ddatblygu dy sgiliau Cymraeg.
PAM DEWIS CYMRU?
Der â dy angerdd i'r ystafell dosbarth o dan Cwricwlwm i Gymru.
Mae yna hefyd ddigonedd o gefnogaeth ar gyfer dysgu proffesiynol drwy gydol dy yrfa.
CAMAU NESAF
Cysyllta am fwy o wybodaeth ac i drafod dy opsiynau.
Digwyddiadau - Ymuna â ni mewn digwyddiad - mewn diwrnod agored prifysgol, gallwn dy helpu gyda dy gais ac i baratoi ar gyfer cyfweliad.
Dilyna Addysgu Cymru - ein hymgyrch ar gyfer athrawon uchelgeisiol yng Nghymru.
Gwna gais am brofiad gwaith mewn ysgol leol i gael blas ar sut beth yw sefyll o flaen dosbarth.
PWY YDYN NI?
Gall Addysgwyr Cymru dy helpu, dim ots ar ba ran o dy siwrnai wyt ti - o ymgeiswyr dan hyfforddiant i athrawon cymwysedig sy'n chwilio am swyddi gwag. Gallwn dy helpu i ddarganfod dy swydd ddelfrydol ar ein tudalen swyddi.
Cysyllta gyda un o'r tîm heddiw!
Ffonia 02920 460099
Ebostia: gwybodaeth@addysgwyr.cymru
Mae gan Addysgwyr Cymru bopeth rwyt ti ei angen i archwilio llwybrau a chyfleoedd gyrfa o fewn addysg. Cymer olwg.