- Posted by: Educators Wales
Deg Darn o Gyngor ar gyfer dy Flwyddyn Gyntaf fel Athro Newydd Gymhwyso
Gall y flwyddyn gyntaf fod yn dipyn o straen i athrawon newydd gymhwyso. Yn y blog hwn, byddwn yn egluro rhai o’r ffyrdd gorau i reoli dy flwyddyn gyntaf fel athro newydd gymhwyso yn ogystal â rhai argymhellion a thechnegau defnyddiol i sicrhau bod gen ti.
Bydd dy flwyddyn gyntaf fel athro newydd gymhwyso yn gyffrous iawn ond hefyd yn eithaf trwm. Mae dysgu i reoli dy lwyth gwaith ac addasu i ddysgu dy ddosbarth dy hun yn gallu bod yn eithaf heriol.
Rydym wedi casglu rhestr o’n deg darn o gyngor gorau ar gyfer athrawon newydd gymhwyso i sicrhau dy fod yn gwneud y gorau o dy flwyddyn gyntaf o ddysgu.
Holi Cwestiynau
Os oes rhywbeth nad wyt ti’n siŵr ohono - cofia holi cwestiynau. Gofyn am gymorth neu gyngor gan gydweithwyr mwy profiadol oherwydd galli ddysgu llawer oddi wrthynt, a byddant yn hapus iawn i dy gefnogi yn dy swydd newydd.
Paratoi
Cynllunia a paratoa dy wersi o flaen llaw cyn belled â bod hynny’n bosibl. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyder i ti ac yn sicrhau y bydd dy wersi yn mynd yn esmwyth.
Cadw Trefn
Ceisia gadw cymaint o drefn â sy’n bosibl wrth gadw golwg ar ddogfennau pwysig, peidio gadael dy waith marcio tan y funud olaf, a chynllunio o flaen llaw. Mae’r math yma o drefnusrwydd yn gwneud dy waith yn haws ac yn galluogi i ti deimlo fel bod gennyt fwy o reolaeth dros bethau.
Edrych ar Ôl dy Hunan
Mae dysgu yn medru bod yn swydd anodd, felly mae’n hollbwysig dy fod yn rheoli dy iechyd meddwl a llesiant. Bydd yn feddylgar o dy lefelau egni a a straen, cymera egwyl yn rheolaidd i adennill egni, a cheisia ddod o hyd i ffyrdd i ymlacio y tu allan i’r gweithle. Am fwy o gyngor ar feddwlgarwch cymer olwg ar ein blog ar feddwlgarwch a rheoli dy iechyd meddwl a llesiant.
Dysgu Enwau
Bydd dysgu enwau dy ddisgyblion a dy gydweithwyr yn dy helpu i adeiladu perthnasau cadarnhaol yn dy ysgol. Bydd hyn yn ei dro yn creu amgylchedd dysgu positif a bydd yn gwneud dy swydd yn fwyboddhaol.
Bod yn Hyblyg
Mae’r gallu i fod yn hyblyg ac yn barod i addasu i newid yn rhan enfawr o ddysgu. Mae pob dydd yn
wahanol mewn dosbarth, felly bydda’n barod i newid dy gynlluniau os bydd angen, bydda’n hyblyg
ac addasa ar gyfer pob dydd a phob sefyllfa newydd.
Derbyn Camgymeriadau
Rhaid cydnabod y bydd camgymeriadau’n digwydd yn dy flwyddyn gyntaf o ddysgu. Cymera pob
camgymeriad fel profiad dysgu a’r cyfle i ddatblygu dy ymarfer dysgu. Paid â gweld bai ar dy hunan
am gamgymeriadau, ond adlewyrcha arnynt. Mae dy ddisgyblion yn dysgu ym mhob gwers felly galli
di ddefnyddio’r cyfle i barhau i ddysgu hefyd.
Cael Dihangfa
Gwna yn siŵr nad yw dy fywyd i gyd yn canolbwyntio ar dy swydd fel addysgwr. Mae’n bwysig i ti gael rhyw fath o ddihangfa o ddysgu, a gall hynny fod yn unrhyw beth o wersi cadw’n heini i gelf neu dyddiaduro. Gwna amser i’r pethau wyt ti’n eu hoffi a chofia gael dihangfa wrth wneud gweithgareddau sydd ddim yn berthnasol i dy waith.
Parhau i Ddysgu
Fel addysgwr, mae’n hollbwysig dy fod yn parhau gyda dy ddatblygiad proffesiynol a dy lwybr dysgu.
Cadw lygad am gyfleoedd dysgu proffesiynol a chymera sylw o’r datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil a chanllawiau o fewn addysg. Darllena fwy am ddatblygiad proffesiynol yn ein blog neu drwy ymweld â’n gwefan i chwilio am fwy o gyfleoedd.
Croesawu Cyfleoedd
Bydd nifer o gyfleoedd ar gael i ti yn dy flwyddyn gyntaf o ddysgu, croesawa nhw. Ymuna neu
gwirfoddola i wneud gweithgareddau allgyrsiol fel clybiau celf neu glybiau chwaraeon, a bydda’n
agored i gyfleoedd llai ffurfiol a wnaiff wella dy ddatblygiad fel cyfarfod dy gydweithwyr y tu allan i’r
ysgol i drafod ymarferion a thechnegau dysgu.
Cliciwch yma i lawr lwytho ein hadnodd '10 Tip ar Gyfer Athrawon Newydd Cymhwysol'
Rydym yn gobeithio y bydd y deg darn o gyngor hyn yndy helpfu yn dy flwyddyn gyntaf fel athro
newydd gymhwyso. Am fwy o wybodaeth am sut y gall y tîm yn Addysgwyr Cymru dy helpu, cysyllta
ar gwybodaeth@addysgwyr.cymru